Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/04/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Rhagor o wybodaeth gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi yn dilyn y cyfarfod ar 12 Chwefror

CYPE(4)-10-14 – Papur i’w nodi – Papur 6

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/02/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog: Y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi

Llywodraeth Cymru

CYPE(4)-04-14 – Papur 1

 

Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi

Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Kate Cassidy, Cyfarwyddwr yr Adran Cymunedau a Threchu Tlodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog.  Cytunodd i ddarparu nodyn ar y canlynol: 

 

Dechrau’n deg

y gwaith a gyflawnwyd gan yr Athro Edward Melhuish;

rhoi’r rhaglen ar waith, y broses, a rôl Rheolwyr Cyfrif;

nifer y plant sy’n elwa yn sgîl pob un o’r pedair elfen o’r rhaglen (a chanran cyfanswm nifer y rhai sy’n elwa yn sgîl Dechrau’n Deg);

unrhyw wybodaeth arall am gyfrif plant ddwywaith yng nghyfanswm nifer y plant sy’n elwa yn sgîl Dechrau’n Deg.

Teuluoedd yn Gyntaf

Y canlyniadau penodol ar gyfer y plant a theuluoedd y bydd y broses o werthuso Teuluoedd yn Gyntaf yn eu mesur;

Pa ddyddiad y bydd y gyfres gyntaf o ddata sy’n mesur tystiolaeth o ran bwrw ymlaen â’r canlyniadau hyn yn cael ei chyhoeddi.

 

Chwarae

Y cydweithio sy’n digwydd rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd o ran cyfleusterau chwarae.

 

Cytunodd y Pwyllgor i anfon y cwestiynau na chawsant eu gofyn yn ystod y sesiwn i gael ymateb ysgrifenedig iddynt.


Cyfarfod: 12/02/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Adroddiad: Gwerthusiad Cenedlaethol o Dechrau’n Deg: adroddiad effaith

Dogfennau ategol: