Cyfarfodydd

P-03-294 Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru - cynrychioli menywod

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-294 Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joyce Watson fuddiant, ar sail y faith yr arferai reoli Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru.

Yn sgîl yr ohebiaeth a gafwyd eisoes gan y Gweinidog, a’r diffyg ymateb gan y deisebwr, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-03-294 Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joyce Watson fuddiant gan ei bod yn arfer rhedeg Clymblaid Menywod Cymru.

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i anfon y datganiad a wnaed gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-294 Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru - cynrychioli menywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am eu sylwadau ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid a gofyn iddynt a ydynt yn bwriadu cyflwyno cais i gael eu hariannu.