Cyfarfodydd
P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 07.06.2017 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3
PDF 39 KB Gweld fel HTML (3/2) 5 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o ystyried bod
sylw manwl wedi'i roi i'r ddeiseb hon dros nifer o flynyddoedd a'r ymatebion
cynhwysfawr diweddar gan y byrddau iechyd, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail y byddai'n
well i'r materion sy'n weddill gael eu datrys ar lefel weithredol. Wrth wneud
hynny, cytunodd Aelodau i roi cynigion pellach y deisebwyr i Lywodraeth Cymru
er gwybodaeth gan ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon a fyddai'n barod i gyfarfod â nhw.
Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 06.04.17 Gohebiaeth – gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 243 KB
- 06.04.17 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 30 KB
- 07.04.17 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 172 KB
- 17.04.17 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 195 KB Gweld fel HTML (3/5) 16 KB
- 20.04.17 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 118 KB
- 24.04.17 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 139 KB
- 23.04.17 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 1000 KB
- 27.03.17 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 1 MB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu ar unrhyw gamau priodol i'w cymryd.
Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 17.01.17 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Eitem 3
PDF 90 KB
- 08.12.16 Gohebiaeth gan – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 155 KB
- 01.03.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 38 KB Gweld fel HTML (3/4) 4 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn:
- ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ofyn a oes
modd rhoi'r sicrwydd i'r deisebwyr y maent yn ei geisio ynghylch:
- a yw
fforwm gwneud penderfyniadau cenedlaethol gydag adnoddau yn ddigon
ymwybodol o'r risgiau gwasanaeth ac yn pennu blaenoriaeth wybodus i'r
sefyllfa; a
- bod
gwasanaethau niwrogyhyrol yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas yr adolygiad
cenedlaethol o niwrowyddorau yng Nghymru sy'n cael ei arwain gan WHSSC
- ysgrifennu
at yr holl Fyrddau Iechyd Lleol i gael eu barn ar y materion a godwyd gan
y ddeiseb.
Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
5 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llesiant a Chwaraeon ynghylch gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,
Llesiant a Chwaraeon ynghylch gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng
Nghymru
Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 13 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 01.11.16 Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Chwaraeon a Gofal Cymdeithasol at Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Eitem 3
PDF 86 KB
- 09.11.16 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y tîm clercio (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 14 KB Gweld fel HTML (3/3) 3 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon rannu copi o ymateb
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon pan fydd wedi dod i
law, ac i ofyn am ragor o sylwadau gan y deisebydd bryd hynny.
Cyfarfod: 19/10/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
7 Trafod deiseb P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
Cofnodion:
7.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth bellach ynghylch Deiseb P-04-532 a nododd
fod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol i'w adnewyddu yn 2017.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon i ofyn am y diweddaraf ynghylch yr amcanion perthnasol a'r
camau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd.
Cyfarfod: 29/09/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 11)
11 Trafod Deiseb P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Papur 10 - Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynglŷn â Deiseb P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru, Eitem 11
PDF 222 KB Gweld fel HTML (11/1) 17 KB
Cofnodion:
11.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau a
gofynnodd am rywfaint o wybodaeth gefndirol ychwanegol gan y Gwasanaeth Ymchwil
cyn ystyried y mater ymhellach mewn cyfarfod diweddarach.
Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 13 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 14.12.2015 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 70 KB
- 24.12.2015 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 90 KB Gweld fel HTML (3/3) 11 KB
- 15.12.2016 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 347 KB
- 12.02.2016 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 81 KB
- 10.02.2016 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 386 KB
- 16.02.2016 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 348 KB Gweld fel HTML (3/7) 2 KB
- 11.01.2016 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 180 KB
- 01.03.2016 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 103 KB Gweld fel HTML (3/9) 6 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
·
ofyn i’r Pwyllgor Iechyd nesaf ystyried y materion a nodwyd yn y ddeiseb ac
i rannu gohebiaeth Byrddau Iechyd gyda nhw ac, yn dibynnu ar eu penderfyniad;
·
cynghori’r Pwyllgor Deisebau nesaf gynnal darn byr o waith ar y mater.
Cyfarfod: 03/12/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru: gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
6.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 13 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 13.05.2015 Gohebiaeth – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 198 KB
- 26.05.2015 Gohebiaeth – Bwrdd Iechyd Addysgu Powys at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 645 KB
- 01.06.2015 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 818 KB
- 06.07.2015 Gohebiaeth – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 2 MB
- 17.06.2015 Gohebiaeth – Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 859 KB
- 29.09.2015 Gohebiaeth – gan y deisebydd i'r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 77 KB Gweld fel HTML (3/7) 7 KB
Cofnodion:
Datganodd
Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Hi yw
Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau
Niwrogyhyrol.
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
- holi Byrddau Iechyd sut y gall
manteision amser ychwanegol gydag ymgynghorwyr niwrogyhyrol (a nodwyd gan
Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn arbennig) gael eu
gwireddu ar draws Cymru.
- ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd
a Gofal Cymdeithasol yn gofyn iddo ystyried y mater fel rhan o’i
flaenraglen waith.
Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2
PDF 24 KB Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
- 16.02.2015 Gohebiaeth – gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2
PDF 873 KB
- 04.03.2015 Gohebiaeth – gan y deisebydd i'r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2
PDF 55 KB Gweld fel HTML (2/3) 6 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at:
- y Byrddau
Iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ofyn iddynt
ystyried y camau penodol y mae llythyr y deisebydd yn galw amdanynt;
- y
Gweinidog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater nawr bod
apwyntiad yn ei le; ac
- y
Grŵp trawsbleidiol ar Gyflyrau Dystroffi'r Cyhyrau a Niwrogyhyrol fel
eu bod yn ymwybodol o'r sefyllfa ddiweddaraf.
Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4
PDF 24 KB Gweld fel HTML (4/1) 9 KB
- 09.09.2014 Gohebiaeth – gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd, Eitem 4
PDF 120 KB
- 18.11.2014 Gohebiaeth – gan y deisebydd i'r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 4
PDF 56 KB Gweld fel HTML (4/3) 7 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
- ofyn i’r Gweinidog am gael
gwybod am y cynnydd a wneir o ran penodi olynydd i Dr Andrew Goodall; a
- gofyn am ymateb gan y byrddau
iechyd nad ydynt wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor eto, gan
gopïo’r llythyr i’r Gweinidog Iechyd.
Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 07.04.2014 Gohebiaith - Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 2 MB
- 10.04.2014 Gohebiaith - Bwrdd Lleol Betsi Calwaldar i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 145 KB
- 14.04.2014 Gohebiaith - Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 2 MB
- 20.05.2014 Gohebiaith - Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i'r tim clercio (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 508 KB
- 09.07.2014 Correspondence - Petitioner to the Chair (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 58 KB Gweld fel HTML (3/6) 8 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am y cynnydd o ran penodi olynydd i Dr
Andrew Goodall fel Cadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru ac am y cynnydd o
ran y materion eraill a nodwyd gan y deisebwyr; ac
·
yn gofyn am ymatebion gan y Byrddau Iechyd nad ydynt wedi ymateb i lythyr
gwreiddiol y Pwyllgor.
Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 2
PDF 100 KB Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
- 28.01.2014 Gohebiaeth – Deisebydd at y Tîm Clercio - Papur 1 (Saesneg yn unig), Eitem 2
PDF 76 KB
- 28.01.2014 Gohebiaeth - Deisebydd at y Tîm Clercio - Papur 2 (Saesneg yn unig), Eitem 2
PDF 690 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
·
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a’r
·
holl Fyrddau Iechyd Lleol
i
ofyn eu barn am y ddeiseb.