Cyfarfodydd

P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar adfywio canol trefi, a oedd yn cynnwys ystyried y deisebau hyn, cytunodd y Pwyllgor i:

Sicrhau bod Cadeirydd y gweithgor sydd wrthi’n adolygu ardrethi busnes yng Nghymru yn ymwybodol o’r deisebau; a

Chau’r deisebau.

 


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y ddeiseb nes ei fod yn gwybod beth yw canfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i adfywio canol trefi.

 

 

 


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y deisebau hyn.

 

Camau i’w cymryd

·         Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Menter a Busnes i ofyn a fyddai’n ystyried y materion a godwyd yn y ddeiseb mewn ymchwiliad yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf i’r desisebau hyn.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ysgrifennu at y Ffederasiwn Busnesau Bach i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

·               Ysgrifennu at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i ofyn a all ddatgan, wth ymateb i’r Pwyllgor, a fyddai’n fodlon i ddadansoddiad gael ei gynnal fel yr amlinellir yng ngohebiaeth y Pwyllgor.