Cyfarfodydd

P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon. Yn sgîl y wybodaeth a ddarparwyd, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 10/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor am y mater hwn a chytunodd i rannu’r cofnod o ddamweiniau gyda’r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 15/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i drafod y mater gyda’r Gweinidog yn y sesiwn tystiolaeth lafar nesaf ac, yn benodol, i drafod unrhyw bolisi y seiliwyd y penderfyniad i beidio â darparu goleuadau gwell arno, a materion ynghylch awdurdodau lleol yn diffodd goleuadau stryd / goleuadau ar ochr y ffordd er mwyn arbed adnoddau.

 


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn pam na chafodd goleuadau ar ochr y ffyrdd eu cynnwys yn y gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd.

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

Datganodd William Powell fuddiant ym mhwnc y ddeiseb.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ac yn amlygu pryderon am yr amser y mae’r gwaith wedi’i gymryd i’w gwblhau.