Cyfarfodydd

P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon a chytunodd i gau’r ddeiseb, oherwydd:

 

Bod y mater ehangach wedi cael ei ystyried yn adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012; ac

Nad oedd y deisebydd wedi ymateb i’r cais am ragor o sylwadau ar y mater.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgîl cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r deisebwyr a oes ganddynt sylwadau cloi i’w gwneud cyn ystyried cau’r ddeiseb yn yr hydref.

 


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y ddeiseb nes ei fod yn gwybod beth yw canfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi ynni a chynllunio.

 


Cyfarfod: 14/07/2011 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Deisebau: P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth & P-04-324 Dywedwch Na i TAN 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel difetha ein cymuned

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y deisebau a chytunodd y dylid eu cynnwys yn ei ymchwiliad i ynni.

 

4.2 Byddai’r Cadeirydd yn ymateb yn ffurfiol i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

·         Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w ystyried ymhellach

·         Y Clerc i ganfod a yw’r cyfrifoldeb dros agweddau cludo ar ddatblygiadau ffermydd gwynt sydd dros 50MW wedi’i gadw gan Lywodraeth y DU 

·         Yn ddibynnol ar yr ateb, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd i ofyn am ei barn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb.