Cyfarfodydd

Archwilydd Cyffredinol Cymru - materion llywodraethu (ar ôl 31 Mawrth 2014)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Ymgynghoriad ynghylch cod ymarfer archwilio newydd a datganiad ymarfer

PAC(4)-04-14 (papur 3)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru sesiwn friffio ar yr Ymgynghoriad ar god ymarfer archwilio newydd a datganiad ymarfer. Cytunwyd hefyd i anfon nodyn cyfreithiol ynglŷn â’r ymrwymiad penodol mewn perthynas ag archwilio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac a gafodd yr argymhelliad yn Adolygiad Essex ar newid y swyddogaeth hon ei dderbyn.