Cyfarfodydd
P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 16 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 30.03.2015 Gohebiaeth - Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 138 KB
- 15.04.21 Gohebiaeth - Deisebydd at y tîm clercio, Eitem 3 PDF 12 KB Gweld fel HTML (3/3) 3 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, yn sgil y newyddion cadarnhaol bod
y mater a godwyd yn y ddeiseb wedi cael ei ddatrys ar gyfer y flwyddyn ariannol
gyfredol, gyda thrafodaethau yn parhau yn y blynyddoedd i ddod, cytunwyd i
gau'r ddeiseb.
Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf.
Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 26 KB Gweld fel HTML (4/1) 10 KB
- 11.02.2014 Gohebiaeth - Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 493 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth a chytunodd i ysgrifennu at:
1. y deisebwyr i ofyn
eu barn am lythyr y Gweinidog ac i ofyn am ragor o wybodaeth am eu cynlluniau
mewn perthynas â chyflwyno eu hachos busnes i Lywodraeth Cymru am gyllid;
2. y Gweinidog yn
gofyn iddi hysbysu'r Pwyllgor am ganlyniad y cais am gyllid, ar ôl i'r Llywodraeth
gael yr achos busnes.
Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
·
ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb; ac
·
anfon copi at y Gweinidog Addysg.