Cyfarfodydd

P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i:

Ysgrifennu crynhoad o gamau’r Pwyllgor a’i anfon ymlaen at yr Aelodau Cynulliad etholaethol a rhanbarthol perthnasol, gan nodi cymorth y Pwyllgor a gofyn bod Aelodau yn parhau i gefnogi’r deisebwyr ar lefel leol;

Cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’w hannog i gefnogi trafodaethau rhwng y pleidiau, o ystyried yr awgrym gan Mark Isherwood AC bod y sefyllfa yn dod yn ‘anniogel yn glinigol’.

 


Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn ceisio cael eglurder ar y sefyllfa, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed.


Cyfarfod: 15/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-085 Meddygfeydd yn sir y Fflint

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:

I ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr i ofyn am ei farn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb ac i ofyn a yw’n cynnal ymgynghoriad i’r materion hynny;

I ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint i ofyn am wybodaeth am yr amserlen ar gyfer y cynlluniau arfaethedig i ailddatblygu canol tref y Fflint;

I anfon yr ohebiaeth hon at Sandy Mewies AC a’r pedwar Aelod Cynulliad rhanbarthol.