Cyfarfodydd
Sefydlu Pwyllgorau a’u Cylchoedd Gorchwyl - Y Pedwerydd Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i addasu cylch gwaith a theitlau pwyllgorau
NDM5403
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.3, yn cytuno i:
1. newid cylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i
gynnwys Addysg Uwch;
2. newid teitl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg;
3. trosglwyddo twristiaeth o gylch gwaith y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gylch gwaith y Pwyllgor Menter a
Busnes.
Mae cynigion y Pwyllgor Busnes i’w gweld yn yr adroddiad
‘Portffolios a Chyfrifoldebau'r Pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad’ a osodwyd
ar 15 Ionawr 2014.
Dogfennau
Ategol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 14.57
NDM5403
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.3, yn cytuno i:
1. newid cylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i gynnwys
Addysg Uwch;
2. newid teitl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg;
3. trosglwyddo twristiaeth o gylch gwaith y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gylch gwaith y Pwyllgor Menter a
Busnes.
Mae cynigion y Pwyllgor Busnes i’w gweld yn yr adroddiad
‘Portffolios a Chyfrifoldebau'r Pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad’ a osodwyd
ar 15 Ionawr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 04/12/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)
9 Llythyr gan y Llywydd - Cylch Gorchwyl a Chyfrifoldebau’r Pwyllgorau
E&S(4)-30-13 papur 3
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
9.3 Nododd y
Pwyllgor y llythyr.
Cyfarfod: 28/11/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor
Cofnodion:
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei gylch gwaith.
Cyfarfod: 16/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid
NDM5334 Rosemary Butler
(Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid
cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyllid fel ei fod,
yn ogystal â’i swyddogaethau presennol, yn cyflawni
swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog
18.10 ac 18.11.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.24
NDM5334
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid
cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyllid fel ei fod,
yn ogystal â’i swyddogaethau presennol, yn cyflawni
swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog
18.10 ac 18.11.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 02/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Cynnig i sefydlu’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
NDM4969 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu
Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif
Weinidog; a
2. Yn cytuno
mai cylch gwaith y Pwyllgor fydd craffu ar
waith y Prif Weinidog am unrhyw
fater sy’n berthnasol i’r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am15:11.
NDM4969 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a
2. Yn cytuno
mai cylch gwaith y Pwyllgor fydd craffu ar
waith y Prif Weinidog am unrhyw fater sy’n berthnasol
i’r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 22/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Cynigion i sefydlu pwyllgorau
NNDM4749 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.
NNDM4750 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.
NNDM4751 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.
NNDM4752 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.
NNDM4753 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Menter a Busnes i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.
NNDM4754 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 19.
NNDM4755 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 18.
NNDM4756 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 22.
NNDM4757 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno bod y Pwyllgor Offerynnau Statudol a sefydlwyd ar 15 Mehefin 2011 yn cael ei ailenwi y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Cylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol neu lywodraethol arall o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu mewn perthynas â’r rheini.
Penderfyniad:
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cyfarfod: 15/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Cynnig i sefydlu pwyllgor i ystyried deisebau a gyflwynir i'r Cynulliad
NDM4732 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir
yn Rheol Sefydlog 23.
Penderfyniad:
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 15/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Cynnig i sefydlu pwyllgor i ystyried offerynnau statudol.
NDM4733 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor
Offerynnau Statudol i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir
yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 ac i ystyried
unrhyw faterion eraill yn ymwneud
â deddfwriaeth, ar wahân i’r swyddogaethau
angenrheidiol yn ôl Rheol Sefydlog
26, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.
Penderfyniad:
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 25/05/2011 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Sefydlu’r pwyllgorau a’u cylch gwaith
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor Busnes
yn ystyried papur yn amlinellu
opsiynau cychwynnol ar gyfer sefydlu
system bwyllgorau y Pedwerydd
Cynulliad, i’w thrafod ymhellach â’r grwpiau plaid. Caiff y papur ei
drafod eto
ar 14 Mehefin.
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes mewn egwyddor y dylai pwyllgorau i drafod deisebau ac is-ddeddfwriaeth gael eu sefydlu cyn gynted
â phosibl, a gofynnodd am ragor o wybodaeth am gylchoedd gwaith ac aelodaeth posibl erbyn y cyfarfod ar 8 Mehefin. Bydd y system bwyllgorau
yn ei chyfanrwydd
yn cael ei
hystyried yn y cyfarfod ar 14 Mehefin.