Cyfarfodydd
Amserlen y Cynulliad - y pedwerydd cynulliad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/05/2011 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Amserlen y Cynulliad
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i gyhoeddi amserlen dros dro
ar gyfer busnes y Cynulliad yn amlinellu:
- yr
amser sydd ar gael ar
gyfer cyfarfodydd grwpiau plaid;
- dyddiadau’r
toriadau sydd wedi’u cadarnhau, fel a ganlyn:
- Sulgwyn
– Dydd Llun 30 Mai –
Dydd Sul 5 Mehefin 2011
- Haf
– Dydd Llun 18 Gorffennaf – Dydd Sul 18 Medi 2011
- Hydref
– Dydd Llun 24 Hydref – Dydd Sul 30 Hydref 2011
- dyddiadau’r
toriadau arfaethedig a ganlyn:
- Nadolig
– Dydd Llun 12 Rhagfyr 2011 – Dydd Sul 8 Ionawr 2012
- Gwanwyn
– Dydd Llun 13 Chwefror – Dydd Sul 19 Chwefror 2012
- dyddiadau
ar gyfer cwestiynau llafar.
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y byddai’r amseroedd ar gyfer
cyfarfodydd pwyllgorau’r Cynulliad yn cael
eu cyhoeddi pan gaiff system y pwyllgorau ei chytuno.
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i ymgynghori â’r grwpiau plaid ar:
- ddyraniad
amser rhwng busnes y Llywodraeth a busnes y Cynulliad; a’r
- cynigion
ar gyfer sut y caiff amser y Cynulliad ei ddefnyddio.