Cyfarfodydd

P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a ddaeth i law, ynghyd â’r wybodaeth lefel uchel a ddarparwyd ynghylch presenoldeb asbestos mewn adeiladau ysgolion yng Nghymru. Gwnaeth y Pwyllgor gydnabod nad yw hyn yn diwallu holl ofynion y deisebydd, fodd bynnag, yn sgil yr ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r ddeiseb hon ers ei chyflwyno yn y lle cyntaf, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach o ddefnydd y byddai’n gallu eu cymryd ar yr adeg hon. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         aros am gyhoeddi’r wybodaeth lefel uchel am reoli asbestos mewn ysgolion, gyda’r bwriad o ddod â’i ystyriaeth o’r ddeiseb i ben ar ôl i hyn gael ei wneud; ac

·         aros am farn y deisebwyr ar yr ymateb a roddwyd gan y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o wybodaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o ran cyhoeddi gwybodaeth lefel uchel am reoli asbestos mewn ysgolion, fel y cyfeiriwyd ati yn ei gohebiaeth flaenorol.

 

 


Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru a sylwadau byr gan y deisebydd, a chytunodd i aros am gyhoeddiad gwybodaeth yn deillio o'r arolwg ar gyflwr ysgolion a’r canllawiau newydd ar reoli asbestos mewn ysgolion, a chynnig cyfle i'r deisebydd ymateb yn fanylach, cyn ystyried a yw'n dymuno cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros am ragor o wybodaeth am benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cyhoeddi gwybodaeth yn deillio o'r arolwg o gyflwr ysgolion, a chyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar reoli asbestos mewn ysgolion.

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet unwaith y bydd wedi ystyried yr ymatebion i'r arolwg ar gyflwr ysgolion a'r ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol ar y Canllawiau i Reoli Asbestos mewn Ysgolion.

 


Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i:

 

·         ystyried sylwadau, a dderbyniwyd gan y deisebydd ar ôl i'r papurau gael eu cyhoeddi, mewn cyfarfod yn y dyfodol; ac

·         ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i fynegi eu barn y dylid cyhoeddi canlyniadau arolwg cyflwr yr ysgol.

 

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:

 

·         y cwestiynau a gyflwynwyd gan y deisebydd, gan gynnwys ynghylch yr ymgynghoriad ar ganllawiau diwygiedig ar gyfer rheoli asbestos mewn ysgolion sydd ar y gweill yn gynnar yn 2018; ac

·         ei bod yn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymateb yn llawn i'r adroddiad arolwg cyflwr ysgolion.

 


Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn:

 

·         a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhannu'r data y mae wedi'u casglu ynghylch ysgolion â chynlluniau asbestos, a sut y bydd yn gwneud hynny; ac

·         am ddiweddariad ynghylch pryd y bydd y Gweithgor Rheoli Asbestos mewn Ysgolion yn cynnal trafodaethau i drafod datblygiadau diweddar yn Lloegr a'u perthnasedd i ysgolion yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, a nododd eu bod yn am ystyried y mater ymhellach ar ôl i ymateb y deisebwr ddod i law.

 

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb. Oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r Pwyllgor Deisebau blaenorol glywed tystiolaeth ar y mater hwn, cytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn barn bresennol y Llywodraeth ar y materion a godwyd gan y deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd; a

·         gofyn am grynodeb o’r gwaith a wnaed eisoes i lywio ystyriaeth y Pwyllgor nesaf.

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a chytunwyd i aros am ymateb mwy sylweddol gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Trafod Sesiwn Dystiolaeth Lafar - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried y ddeiseb nes iddo dderbyn rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog yn dilyn ei sesiwn dystiolaeth ar 24 Tachwedd.

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Huw Lewis AC – Gweinidog Addysg a Sgiliau.

Joanne Larner – Llywodraeth Cymru

Kathryn Massey – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i:

·         Gadarnhau a yw rheoli asbestos yn cael ei gynnwys mewn rhaglenni hyfforddi llywodraethwyr; a

·         Darparu gwybodaeth bellach ar aelodaeth y gweithgor asbestos a’i gylch gorchwyl.

 


Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Cenric Clement-Evans gwestiynau gan y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i wahodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i roi tystiolaeth lafar ar y ddeiseb. 

 


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ofyn i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiwn o sefydlu Grŵp Llywio ynghylch Asbestos mewn Ysgolion i gynorthwyo'r Adran Addysg a Sgiliau wrth i'w swyddogion lunio ac adolygu polisi ar y mater hwn; ac
  • ystyried a ddylid gwahodd y Gweinidog i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol i ateb cwestiynau ar y mater.

 

 


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau:

·         Yn gofyn am ei farn ar sylwadau pellach y deisebydd ac yn benodol, yn gofyn am ei farn ar gynnig y deisebydd i sefydlu grŵp llywio i gynnwys arbenigwyr o bob sector; ac

·         Yn diolch iddo am addo i ddarparu diweddariad ysgrifenedig i’r Pwyllgor erbyn 5 Mehefin.

 


Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Gweinidog ymateb i sylwadau pellach y deisebydd, yn enwedig y tri chais ar dudalen olaf ei ymateb; ac

·         ystyried yng ngoleuni'r ymateb hwnnw i gymryd tystiolaeth lafar gan y Deisebydd a'r Gweinidog.

 


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau:

 

·         Yn gofyn am ei sylwadau ar yr ohebiaeth bellach a dderbyniwyd a gofyn ei fod yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ei ystyriaeth o’r ymgynghoriad yn Lloegr;

·         Yn gofyn iddo amlinellu’r rhesymau dros beidio â chynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd; a

·         Chyfleu barn y Pwyllgor bod hwn yn faes lle dylai Cymru fod yn rhagweithiol ac y byddai’n anffodus pe byddai Cymru yn llusgo y tu ôl i Loegr o ran hygyrchedd gwybodaeth am bresenoldeb a rheoli asbestos mewn adeiladau ysgol.

 


Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog, gan anfon copi o ohebiaeth ddiweddar y deisebydd;

·         Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan dynnu sylw at y ddeiseb; a'r

·         rhanddeiliaid canlynol i ofyn eu barn am y ddeiseb:

o   Cyngres Undebau Llafur Cymru;

o   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a

o   Llywodraethwyr Cymru.

 

 


Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu at yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ofyn eu barn am y gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysgolion yn Lloegr ac i ofyn pam nad oes gofyniad statudol i hysbysu myfyrwyr a rhieni o drefniadau rheoli asbestos mewn ysgolion; a

·         gofyn am farn y deisebydd ynghylch y cyngor cyfreithiol a roddwyd yn y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau, i rannu gohebiaeth y deisebydd ac i ofyn a yw ei farn ef wedi newid yng ngoleuni’r ohebiaeth hon; a

·         gofyn am friff cyfreithiol i roi eglurhad ynghylch o fewn cylch gwaith pwy y daw'r mater hwn. 

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb.