Cyfarfodydd

P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         cau'r ddeiseb gan y teimlwyd na ellid gwneud fawr ddim yn rhagor, yn gyffredinol nac yn benodol, o ran bwrw ymlaen â'r ddeiseb; ond wrth wneud hynny

·         anfon manylion y ddeiseb at Darren Millar AC a Chadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gan eu bod yn trafod y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru).  

 


Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghyd â'r wybodaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

1.   yr Awdurdod Tân ac Achub yn gofyn ei farn am y ddeiseb a'r risgiau sydd wedi'u nodi;

2.   y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, oherwydd ei chyfrifoldeb dros ddiogelwch tân yn y gymuned; a'r

3.   cyrff ymbarél perthnasol yn y diwydiant carafanau yn gofyn eu barn am y materion sy'n cael eu codi yn y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn am y ddeiseb;

·         Darren Millar AC i ofyn am ei farn ynghylch a ellid mynd i'r afael â'r materion a godir yn y ddeiseb yn y Bil y mae ef wedi cael caniatâd i'w gyflwyno y flwyddyn nesaf; a

·         Peter Black AC i ofyn am ei farn am y ddeiseb, yn sgîl ei waith ar Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.