Cyfarfodydd

Masnachu mewn Pobl

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Masnachu pobl: trafod llythyr drafft at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr drafft at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth mewn perthynas â Masnachu Pobl.

 


Cyfarfod: 02/04/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Trafod y prif faterion o'r dystiolaeth ar Fasnachu Pobl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion o ran Masnachu Pobl.

 


Cyfarfod: 13/03/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Sesiwn graffu ar Fasnachu Pobl – y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Lesley Griffiths AC, y  Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Stephen Chapman, Cydgysylltydd Atal Masnachu Pobl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.

 

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol:

 

  • nodyn ar gyfrifoldeb cyfreithiol perchennog adeilad/tir lle gall caethwasiaeth/masnachu pobl fod yn digwydd; a
  • copi o'r ddrama 'Sold'.

 

 

 

 


Cyfarfod: 28/11/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu ar Fasnachu mewn Pobl: Cynrychiolwyr o’r Grŵp Arwain Atal Masnachu mewn Pobl

Jeff Farrar, Prif Gwnstabl, Heddlu Gwent

Mark Heath, Awdurdod Trwyddedu Gangfeistri 

Stephen Jones, Cydgysylltydd Rhanbarthol Gogledd Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Grŵp Arwain Atal Masnachu mewn Pobl.  

 


Cyfarfod: 20/11/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Sesiwn graffu ar Fasnachu mewn Pobl: Cynrychiolwyr o’r Fforwm Rheng Flaen Atal Masnachu mewn Pobl ar gyfer Cyrff Anllywodraethol yng Nghymru

Bernadette Bowen Thomson, Dirprwy Brif Weithredwr, Cymru Ddiogelach

Angelina Rodriques, Dirprwy Brif Weithredwr, BAWSO

Mike Wilkinson, New Pathways

Hannah Wharf, Cyngor Ffoaduriaid Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o'r Fforwm Rheng Flaen Atal Masnachu mewn Pobl ar gyfer Cyrff Anllywodraethol yng Nghymru.

 

3.2 Cytunodd Hannah Wharf i ddarparu gwybodaeth am y rheswm bod Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn teimlo y dylai rôl y Cydlynydd Atal Masnachu mewn Pobl fod yn annibynnol ar y Comisiynydd. 

 

3.3 Yn ogystal, cytunodd Hannah i ddarparu gwybodaeth am rôl a phwerau'r cydlynwyr yn y Ffindir ac yn Norwy.

 

 


Cyfarfod: 20/11/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu ar Fasnachu mewn Pobl: Steve Chapman, Cydlynydd Atal Masnachu mewn Pobl

Steve Chapman, Cydlynydd Atal Masnachu mewn Pobl

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Chapman, Cydlynydd Atal Masnachu mewn Pobl.