Cyfarfodydd

P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn os gall prif ddeisebydd P-04-437 gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r canllawiau anstatudol ar addysg yn y cartref, sydd i'w llunio erbyn Mai 2015; ac

·         anfon datganiad diweddar y Gweinidog at y ddau ddeisebydd.

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd am ymateb y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a’r

·         Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

 

i ofyn eu barn am y ddeiseb, gan gynnwys sut y mae Gweinidogion wedi asesu eu dyletswyddau mewn perthynas â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.