Cyfarfodydd
P-04-516 I wneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-516 Gwneud Gwyddor Gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o Addysg
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 12 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 11.07.2016. Gohebiaeth-Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 179 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac, yn
unol â phenderfyniad y Pwyllgor blaenorol, cytunodd i gau’r ddeiseb.
Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-516 Gwneud Gwyddor Gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o Addysg
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 12 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 17.11.2015 Gohebiaeth - Deisebydd i’r tîm clercio, Eitem 3 PDF 22 KB Gweld fel HTML (3/2) 3 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at y Gweinidog i ofyn a oes yna faes o waith yr Athro Donaldson sy’n ymwneud â
Gwyddor Gwleidyddiaeth y gallai’r deisebydd naill ai fod yn ymwneud ag ef,
neu’n gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch. Cytunodd yr Aelodau
hefyd i symud i gau’r ddeiseb unwaith y byddai ymateb wedi ei dderbyn gan y
Gweinidog.
Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-516 I wneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 22 KB Gweld fel HTML (4/1) 8 KB
- 04.03.2015 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Eitem 4 PDF 127 KB Gweld fel HTML (4/2) 20 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y deisebydd yn gofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau ar adroddiad yr Athro
Donaldson neu ar ddatganiad y Gweinidog.
Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 22 KB Gweld fel HTML (4/1) 8 KB
- 13.12.2014 Gohebiaeth – y deisebydd at y tîm clercio, Eitem 4 PDF 22 KB Gweld fel HTML (4/2) 3 KB
- 23.10.2014 Gohebiaeth - Yr Athro Donaldson at y Cadeirydd, Eitem 4 PDF 246 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
anfon
sylwadau'r deisebydd at yr Athro Donaldson yn gofyn iddynt gael eu hystyried yn
ei adolygiad; ac
·
ystyried y
ddeiseb drachefn pan gyhoeddir adroddiad yr Athro Donaldson.
Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 22 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 23.10.2014 Gohebiaeth - Yr Athro Donaldson at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 246 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach
gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.
Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3 PDF 22 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil: , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/2)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
rannu'r papur ymchwil gyda'r deisebydd; ac
·
ysgrifennu at yr Athro Graham Donaldson gan rannu'r papur ymchwil a gofyn
a fyddai'n barod i gyfarfod â'r deisebydd er mwyn cael trafodaeth fanylach
ynglŷn â phwnc y ddeiseb.
Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 22 KB Gweld fel HTML (2/1) 8 KB
- 04.03.2014 Gohebiaeth - y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 153 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
·
ofyn am farn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog; a
·
gofyn am ragor o wybodaeth gan y grŵp llywio a sefydlwyd i
oruchwylio'r diwygiadau i Fagloriaeth Cymru ynghylch unrhyw ystyriaethau sydd
ganddynt i gynnwys gwyddor gwleidyddiaeth yn y cwricwlwm;
·
aros am ganlyniadau'r holiadur sy'n cael ei ddosbarthu gan dîm addysg y
Cynulliad; a
·
gofyn i Glerc y Pwyllgor gadw mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth Ymchwil
ynghylch y gwaith o geisio â chael gwybodaeth mwy cynhwysfawr gan ysgolion
ynghylch a ddylid cynnwys gwyddor gwleidyddiaeth yn eu cwricwlwm ABCh, a sut i
wneud hynny.
Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-516 I wneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 22 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 06.01.2014 Gohebiaeth - Y Gweinidog Addysg a Sgiliau i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 174 KB
- 12.01.2014 Gohebiaeth - Deisebydd i'r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 39 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
·
anfon sylwadau'r deisebydd ymlaen at y Gweinidog, a gofyn a
oes ganddo ragor o sylwadau ar y pwyntiau a wnaed; a
·
thynnu sylw Tîm Addysg y Cynulliad at y ddeiseb.
Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb.