Cyfarfodydd

Comisiynydd y Gymraeg: Adroddiad Blynyddol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/10/2016 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Craffu ar waith Comisiynydd y Gymraeg: Adroddiad Sicrwydd 2015/16

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Comisiynydd y Gymraeg gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 10/12/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Comisiynydd y Gymraeg: Trafod Adroddiad Blynyddol 2014/15

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

 

Adroddiad Blynyddol 2014/15

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

·         Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil

 

 

 


Cyfarfod: 10/12/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Comisiynydd y Gymraeg: Trafod Adroddiad Blynyddol 2014/15 - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 


Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Dadl ar ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg

NDM5845 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2014-15, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 28 Medi 2015, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Dogfen Ategol

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2014-15

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i gydweithio er mwyn cyhoeddi amserlen ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau yn ei strategaeth iaith, 'Iaith fyw: iaith byw', erbyn diwedd y Cynulliad hwn.

'Iaith fyw: iaith byw'

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn ei strategaeth iaith 'Iaith fyw: iaith byw' i wneud 'safonau a fydd yn galluogi'r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gwmnïau'r sector preifat sy'n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau'.

Iaith fyw: Iaith Byw

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5845 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2014-15, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 28 Medi 2015, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i gydweithio er mwyn cyhoeddi amserlen ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau yn ei strategaeth iaith, 'Iaith fyw: iaith byw', erbyn diwedd y Cynulliad hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn ei strategaeth iaith 'Iaith fyw: iaith byw' i wneud 'safonau a fydd yn galluogi'r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gwmnïau'r sector preifat sy'n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau'.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5845 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2014-15, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 28 Medi 2015, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn ei strategaeth iaith 'Iaith fyw: iaith byw' i wneud 'safonau a fydd yn galluogi'r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gwmnïau'r sector preifat sy'n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau'.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 


Cyfarfod: 23/10/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Comisiynydd y Gymraeg: Trafod yr Adroddiad Blynyddol

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil

 

Adroddiad Blynyddol 2013-14

Cynllun Strategol 2013-15

Fy iaith, fy iechyd: ymholiad i’r Gymraeg mewn gofal sylfaenol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 The Committee received evidence from  Meri Huws, Welsh Language Commissioner and Dyfan Sion, Director of Policy and Research.

 

5.2 The Welsh Language Commissioner agreed to provide to the Committee any evidence submitted in relation to the Planning (Wales) Bill.


Cyfarfod: 14/11/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Comisiynydd y Gymraeg: Trafod Adroddiad Blynyddol 2012/13

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyfathrebu

 

Adroddiad Blynyddol 2012/13

 

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, a Gwyn Williams, y Cyfarwyddwr Cyfathrebu.