Cyfarfodydd

Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2014-15

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/04/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

ACARAC (27) Papur 11 - Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb

8.1        Rhoddodd Nicola y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am yr achos o dwyll a byddai’n parhau i wneud hynny wrth i’r achos fynd rhagddo. 

8.2        Roedd y gyllideb yn debygol o gyrraedd y targedau ariannol a bennwyd. Ar gais y Pwyllgor, cytunodd Nicola i archwilio’r dadansoddiad Gwerth am Arian a’r targedau. 

Camau i’w cymryd

-        Archwilio’r dadansoddiad Gwerth am Arian a’r targedau.  

 


Cyfarfod: 25/02/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Cyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1     Ystyriodd y Pwyllgor Gyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15.

 


Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllideb 2014-15

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

ACARAC (26) Papur 11 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllideb 2014-15

9.1     Llongyfarchodd y Pwyllgor Nicola ar sefyllfa'r gyllideb ac amlygodd yr arbedion Gwerth am Arian a chanlyniadau perfformiad talu prydlon. 

9.2     Dywedodd Nicola wrth yr aelodau i'r Gyllideb Atodol gael ei gosod ar 2 Chwefror i wneud yn iawn am y diffyg yng nghronfa bensiwn Aelodau'r Cynulliad.  Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi gofyn am wybodaeth bellach am yr elfen gyfalaf yn y gyllideb ac roedd Nicola wrthi'n paratoi ymateb.   

 


Cyfarfod: 16/07/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Peter Black AC - Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth; ystâd y Cynulliad a chynaliadwyedd.

Dave Tosh - Cyfarwyddwr TGCh, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nicola Callow - Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

 

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystâd y Cynulliad a chynaliadwyedd, Dave Tosh, Cyfarwyddwr TGCh, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15.

 


Cyfarfod: 16/07/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15

FIN(4)-14-14 (papur 1)

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Rhodri Glyn Thomas AC - Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am swyddogaethau a pholisi’r Comisiwn mewn perthynas â’r ieithoedd swyddogol, y gwasanaethau cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth

Craig Stephenson - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Comisiwn Dros Dro, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nicola Callow - Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am swyddogaethau a pholisi ieithoedd swyddogol y Comisiwn, gwasanaethau cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth, Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Comisiwn dros dro, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15.

 


Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15: Llythyr gan Angela Burns AC

FIN(4)-21-13(ptn1)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014/15

NDM5361 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

 

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, fel y pennir yn Nhabl 1 “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2014-15”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 13 Tachwedd 2013 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

 

Dogfennau Ategol:

Dogfen Cyllideb Comisiwn y Cynulliad

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.56

NDM5361 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, fel y pennir yn Nhabl 1 “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2014-15”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 13 Tachwedd 2013 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 17/10/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Cyllideb Ddrafft - Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

papur 4 ac atodiadau

Cofnodion:

Gosodwyd cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014 i’w hystyried gan y Cynulliad ar ddiwedd mis Medi.

Roedd y Comisiynwyr wedi cytuno y dylid seilio’r gyllideb ar y swm o £50.598 miliwn, fel y nodwyd yn y dogfennau cyllideb a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer y ddwy flynedd flaenorol. Bu Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn craffu ar y dogfennau hyn ym mis Hydref 2011 a 2012. 

2014-15 fydd blwyddyn olaf cynllun buddsoddi tair blynedd y Comisiwn ar gyfer y gyllideb. Roedd cynnig cyllideb 2014-15 yn cadw at yr hyn a nodwyd yng nghyllidebau’r ddwy flynedd flaenorol.

Rhoddodd Angela Burns AC, Claire Clancy a Nicola Callow dystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad ar 3 Hydref.

 

Paratowyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid mewn ymateb i’r gyllideb ddrafft a’r dystiolaeth a ddaeth i law. Mae’r adroddiad:

-       yn cefnogi, yn gyffredinol, cynigion y Comisiwn ar gyfer y gyllideb ddrafft; yn croesawu dull y Comisiwn o gyflwyno adroddiadau ar berfformiad drwy Ddangosyddion Perfformiad Allweddol;

-       yn mynegi rhai pryderon ynghylch gallu’r Comisiwn i gyflawni rhai o’i nodau mewn perthynas â’i dargedau o ran  lleihau carbon, y strategaeth TGCh ac Ieithoedd Swyddogol;

-     yn argymell bod Aelodau unigol o’r Pwyllgor yn cael eu haseinio i gydweithio’n agos â’r Comisiwn a chraffu ar ei waith o ran TGCh ac Ieithoedd Swyddogol.

 

Trafododd y Comisiynwyr yr adroddiad. Cytunodd y Comisiynwyr y caiff gwybodaeth ychwanegol ynghylch y strategaeth TGCh ei chynnwys yn nogfen y gyllideb ddrafft. Bydd y Comisiwn yn ymateb i’r Pwyllgor gan:

-       nodi’r ffaith y byddai’r Comisiwn yn targedu adnoddau at ei feysydd blaenoriaeth ar gyfer arloesi a buddsoddi (ieithoedd swyddogol, TGCh ac ymgysylltu â phobl ifanc);

-       pwysleisio cyfrifoldebau’r Comisiwn o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a’r trefniadau llywodraethu cryf sydd ar waith i sicrhau uniondeb, atebolrwydd a gwerth am arian, a dwyn y Comisiwn i gyfrif; 

-       awgrymu y byddai cynnwys aelodau’r Pwyllgor Cyllid yn y gwaith o fonitro elfennau unigol o waith yn amharu ar linellau atebolrwydd priodol a chyfrifoldebau’r Comisiwn o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

-     cynnig y byddai Comisiynwyr yn barod i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn ar unrhyw fater sydd o ddiddordeb penodol, a byddai hynny’n gyfle i graffu ymhellach ar weithgareddau a gwariant y Comisiwn.

 

Caiff newidiadau eu gwneud i ddogfen y gyllideb ddrafft er mwyn adlewyrchu ymateb y Comisiwn i argymhellion y Pwyllgor. Caiff yr ymateb ei anfon at Gadeirydd y Pwyllgor yr wythnos ddilynol. Caiff y gyllideb ei gosod gerbron y Cynulliad ym mis Tachwedd. Disgwylir i’r ddadl a’r bleidlais arni gael eu cynnal yn hwyrach ym mis Tachwedd.

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 11 Tachwedd a bydd y Comisiwn yn ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i bwyllgorau’r Cynulliad.


Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Trafod yr adroddiad drafft ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15

FIN(4)-16-13 Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.

 

3.2 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15

FIN(4)-15-3 (Papur1)

FIN(4)-15-3 (Papur 2)

 

Angela Burns AC, Comisiynydd

Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nicola Callow, Pennaeth Cyllid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.

 

2.2 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn am Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad: Angela Burns AC, Comisiynydd; Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid.

 

2.3 Gofynnodd y Pwyllgor i Angela Burns AC ddarparu gwybodaeth bellach ar y ffigurau ar gyfer buddsoddi mewn TGCh a'r meysydd y byddai'r arian hwn yn cael ei fuddsoddi ynddynt.

 

2.4 Gofynnodd y Pwyllgor i Angela Burns AC ddarparu nodyn ar nifer y ceisiadau gan ysgolion sydd am ymweld â'r Cynulliad sy'n cael eu gwrthod, gan gynnwys dadansoddiad daearyddol o'r wybodaeth hon.

 


Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-2015.

 

6.2 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar amcangyfrif drafft yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

6.3 Bydd y Pwyllgor yn trafod adroddiadau drafft ar y ddwy gyllideb yn ystod y cyfarfodydd dilynol.

 


Cyfarfod: 18/07/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb Ddrafft 2014-15

papur 2 ac atodiadau

Cofnodion:

Bydd cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014-15 yn cael ei gosod i’w hystyried gan y Cynulliad erbyn 1 Hydref fan bellaf. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai, cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r gyllideb fod yn seiliedig ar y swm £50.598 miliwn, a bennwyd yn y dogfennau cyllideb a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer y ddwy flynedd gynt ac y bu Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn craffu arnynt ym mis Hydref 2011 a 2012. 

2014-15 fydd blwyddyn olaf cynllun buddsoddi tair blynedd y Comisiwn ar gyfer y gyllideb. Roedd y Comisiynwyr yn falch gyda'r cynnydd a wnaed ar ddogfen y gyllideb ac yn hapus gyda'r cyflwyniad. Gwnaed rhai awgrymiadau am yr wybodaeth gyllideb fanwl yn Atodiad 1. Gofynnodd Mair Barnes am fwy o eglurder ynghylch lefel costau TGCh yn 2014-15 a thu hwnt. 

Roedd nodyn briffio wedi'i baratoi i hysbysu trafodaethau'r Comisiynwyr gyda grwpiau plaid.  Byddai Angela Burns a Nicola Callow ar gael i drafod y gyllideb gyda grwpiau ac Aelodau unigol.

Penderfynir ar y gyllideb derfynol yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn ym mis Medi, cyn ei gosod.  Cytunodd y Comisiynwyr na fyddai'r papurau yn cael eu cyhoeddi.

Cam i’w gymryd: Swyddogion i baratoi’r gyllideb derfynol i adlewyrchu barn y Comisiynwyr yn unol â thrafodaethau i’w hystyried yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Medi.

 


Cyfarfod: 16/05/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Strategaeth Cyllideb y Comisiwn 2014-15

papur 2

 

Cofnodion:

Bydd cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014-15 yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi i’w hystyried gan y Cynulliad. Cytunodd y Comisiynwyr i’r gyllideb gael ei pharatoi yn unol â’r egwyddorion a nodwyd yn y dogfennau cyllideb a gymeradwywyd yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Craffodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ar y rhain ym mis Hydref 2011 a 2012. Bydd y gyllideb yn seiliedig ar y swm o £50.598 miliwn a nodwyd yn flaenorol.

Cam i’w gymryd: Swyddogion i baratoi’r gyllideb yn unol â thrafodaethau i’w hystyried yng nghyfarfod y Comisiwn ar 18 Gorffennaf.