Cyfarfodydd

Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/05/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-12-14 (papur 1)

PAC(4)-12-14 (papur 2)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a nododd nad oedd yn darparu gwybodaeth am y gost o ddiogelu cyflogau yn GIG Cymru (Argymhelliad 12).  Gofynnodd yr Aelodau i'r Archwilydd Cyffredinol edrych ar y mater hwn fel rhan o'r gwaith pellach y mae wedi ymrwymo i'w wneud. 

 


Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod tystiolaeth ychwanegol

PAC(4)-06-14 (papur 4)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau y dystiolaeth ychwnaegol. Mynegodd yr Aelodau rai pryderon a chytunwyd i ymdrin â'r rhain yn y sesiwn lafar sydd i ddod gyda Phrif Weithredwr GIG Cymru.

 

6.2 Bydd y clercod yn llunio fersiwn derfynol o'r adroddiad ac yn ei ddosbarthu i'r Aelodau er mwyn iddynt gytuno arno.

 

 


Cyfarfod: 13/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (27 Ionawr 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (27 Ionawr 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 28/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (14 Ionawr 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 28/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod yr adroddiad

PAC(4)-03-14 (papur 1)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Awgrymwyd nifer o fân welliannau a chytunwyd y byddai drafft arall yn cael ei ddosbarthu ar gyfer cytuno arno y tu allan i'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

9.1 Roedd gwybodaeth bellach am yr ymchwiliad hwn wedi dod i law gan Swyddfa Archwilio Cymru a ystyriwyd gan y Pwyllgor a bydd yr adroddiad yn adlewyrchu hyn. Trefnir amser i drafod adroddiad drafft yn ddiweddarach y mis hwn.

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Llythyr gan David Sissling (27 Tachwedd 2013)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papurau.

 


Cyfarfod: 03/12/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Llythyr gan Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (14 Tachwedd 2013)

PAC(4)-32-13 (ptn1)

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Trafod y dull o ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt'

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i  'Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt'. Yn benodol, cytunwyd i ganolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Ansawdd y cynlluniau tair blynedd a'r perygl o orlwytho yn y flwyddyn gyntaf

·       Yr anawsterau o ran sicrhau arbedion

·       Dirywiad o ran perfformiad mewn rhai meysydd gwasanaeth

·       Diwygio gwasanaethau a'r cysylltiad â lleihau costau

·       Y cynnydd mewn hawliadau esgeuluster

·       Y modd y caiff blaenoriaethau Haen 1 eu penderfynu

 

 

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt'

Dogfennau ategol:

 

Linc i 'Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt'

 

Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mark JeffsArbenigwr Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru

Geraint Norman – Rheolwr Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru

 

 

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt'. Gyda'r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer yr eitem hon roedd Mark Jeffs a Geraint Norman. Yn y sesiwn friffio cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i holi cwestiynau.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:

 

·       Mwy o wybodaeth yn tynnu sylw at yr arferion da mewn Byrddau Iechyd o ran amcanestyniadau ariannol.

 

Gofynnwyd i'r Clercod:

 

·       Drafod gyda Llywodraeth Cymru a gafodd unrhyw fformiwlâu eu defnyddio i benderfynu faint o gyllid ychwanegol a gafodd pob Bwrdd Iechyd Lleol ym mis Rhagfyr 2012.

 

 

 


Cyfarfod: 21/05/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyllid Iechyd’ a ‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’

PAC(4) 15-13 – Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyllid Iechyd’

PAC(4) 15-13 – Papur 2 – Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyllid Iechyd’

PAC(4) 15-13 – Papur 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’

PAC(4) 15-13 – Papur 4 – Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi cyngor i’r Pwyllgor ar ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyllid Iechyd’ a ‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllid Iechyd ar ôl mis Mehefin 2013. 

 

2.3 Nododd y Pwyllgor y croesgyfeirio rhwng ymateb Llywodraeth Cymru i ‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’ a’r ymchwiliad ‘Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd’. Cytunodd i wahodd Llywodraeth Cymru i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn yr hydref.