Cyfarfodydd

Role of Social Enterprises in the Welsh Economy

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Mentrau Cymdeithasol (11.00-12.00)

 

Tystion:

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

Yr Athro Andrew Davies, Cadeirydd Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru

Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru

 

Dogfennau ategol:

EBC(4)-10-14 (p.3) - Adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru

http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/welsh-coop-mutuals-commission/?lang=cy

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru; Yr Athro Andrew Davies, Cadeirydd Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru; a Derek Walker, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Cydweithredol Cymru.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dangosyddion perfformiad ar gyfer cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mentrau cymdeithasol yn ei diweddariad chwe misol i'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Mentrau Cymdeithasol (10.00-11.00)

 

Tystion:

Phil Fiander, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Matthew Brown, Rheolwr Buddsoddi mewn Cymunedau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Anne-Marie Rogan, Prif Weithredwr YMCA Abertawe

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Phil Fiander, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Matthew Brown, Rheolwr Buddsoddi mewn Cymunedau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; ac Anne-Marie Rogan, Prif Weithredwr YMCA Abertawe.

 


Cyfarfod: 04/07/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ynghylch mentrau cymdeithasol

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

Karyn Pittick, Pennaeth yr Uned Mentrau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru


Duncan Hamer, Pennaeth Entrepreneuriaeth a Gweithrediadau’r Sector, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth; Karyn Pittick, Pennaeth yr Uned Mentrau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru; a Duncan Hamer, Pennaeth Entrepreneuriaeth a Gweithrediadau’r Sector, Llywodraeth Cymru, i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog a’i swyddogion am fentrau cymdeithasol.

 

Cam i’w gymryd:

 

Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

 

·         y wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Buddsoddi Cymunedol, a sut y mae’r gronfa’n gweithio ar hyn o bryd;

 

·         y cylch gorchwyl sy’n berthnasol i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, unwaith y caiff ei sefydlu gan y Comisiwn.

 

 

 

 


Cyfarfod: 02/02/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn ddilynol ar rôl mentrau cymdeithasol yn economi Cymru (13.30 - 14.30)

EBC(4)-04-12 : Papur 1

 

Lis Burnett, Cynghorydd Arbenigol i’r cyn-Bwyllgor Menter a Dysgu, a Phennaeth Canolfan Entrepreneuriaeth Gymdeithasol Prifysgol Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Lis Burnett, a fu’n gynghorydd arbenigol i’r cyn-Bwyllgor Menter a Dysgu ac sy’n Bennaeth ar Ganolfan Entrepreneuriaeth Gymdeithasol Prifysgol Morgannwg. Cafodd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad, a buont yn gofyn cwestiynau.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i wneud gwaith pellach ar fentrau cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 16/11/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol): Trafod yr Adroddiad Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol).