Cyfarfodydd

Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14: Craffu ar waith y Gweinidog - sesiwn ddilynol

Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwenda Thomas AC, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Integreiddiad

Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Dr Grant Robinson, Arweinydd Clinigol Gofal heb ei Drefnu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar ofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14.

 

2.2     Yn ystod y cyfarfod cytunwyd ar y pwyntiau canlynol:

  • Cytunodd y Prif Swyddog Meddygol i ddarparu rhagor o fanylion ynghylch nifer y wardiau a gaewyd yn ystod gaeaf 2013/14 yn sgil achosion o’r norofeirws.
  • Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau parafeddygol yng Nghymru, gan gynnwys: canran y parafeddygon sydd wedi dod yn uwch-barafeddygon yn ystod y blynyddoedd diweddar, cadarnhad ynglŷn â faint o uwch-barafeddygon sy’n ymarfer yng Nghymru; a rhagor o fanylion am eu cynlluniau hyfforddi presennol ac yn y dyfodol.
  • Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog y caiff manylion am gyllid a ddyrannwyd o dan y Gronfa Gofal Canolraddol - a phob cynllun perthnasol - eu cyhoeddi ar lefel ranbarthol a’u rhannu â’r Pwyllgor. Ar ben hynny, nododd y Dirprwy Weinidog y caiff gwersi a ddysgwyd ar draws y sectorau perthnasol yn sgil y broses hon eu cyhoeddi.
  • Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu’r datganiadau o fwriad a gyhoeddwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol a phartneriaid perthnasol eraill yn unol â fframwaith Llywodraeth Cymru ar ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig unwaith y byddant yn barod.

 


Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ystyriaeth o’r dystiolaeth a roddwyd yn y sesiwn ar ofal heb ei drefnu


Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Gofal heb ei drefnu: bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14 - Trafod y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i ofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14, a derbyniwyd y llythyr hwnnw.

 


Cyfarfod: 21/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Trafod y materion allweddol sy’n codi yn sgîl sesiwn graffu’r Pwyllgor ar ofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sy’n codi o’r sesiwn graffu ar ofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14, a chytunodd i ysgrifennu’n fuan at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan amlinellu ei gasgliadau.

 

 


Cyfarfod: 21/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - cynlluniau gofal heb ei drefnu a chynlluniau gaeaf ffurfiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3c.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chynlluniau gofal heb ei drefnu a chynlluniau gaeaf ffurfiol.

 


Cyfarfod: 07/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: gwybodaeth ddilynol yn dilyn y cyfarfod ar 9 Hydref ynghylch gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

·         Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Kevin Flynn, Cyfarwyddwr Cyflenwi a Brif Weithredwr GIG Cymru

·         Dr Grant Robinson, Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Atebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a'u swyddogion, gwestiynau'r Pwyllgor.

5.2 Cytunodd y Gweinidog i:

  • ddarparu eglurhad o'r trefniadau i ddarparu brechiadau ffliw i blant drwy feddygon teulu neu'r ysgol, a'r oedrannau perthnasol pan roddir brechiadau o'r fath;
  • darparu linc i'r adroddiad blynyddol ynghylch perfformiad meddygon teulu yn erbyn y Fframwaith Canlyniadau Ansawdd perthnasol;
  • darparu rhagor o wybodaeth am y polisi o gynnig triniaeth ddewisol y tu allan i GIG Cymru os nad oes gan y gwasanaeth y gallu i ddarparu oherwydd pwysau yn gysylltiedig â'r gaeaf; ac
  • ystyried gwneud darn o waith i asesu'r effaith a gaiff achosion o oedi yng nghyswllt gofal dewisol ar ofal yng Nghymru heb ei drefnu.

5.3 Nododd y Dirprwy Weinidog y byddai'n darparu manylion i'r Pwyllgor ynghylch y prosiectau gofal integredig sy'n mynd rhagddynt yng Nghymru.

5.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i:

·         nodi y bydd yn dychwelyd at y pwnc hwn yn ystod gwanwyn/haf 2014 er mwyn:

                           (i)        adolygu'r cynnydd yn ystod gaeaf 2013/14;

                          (ii)        ystyried canfyddiadau’r ymchwiliad y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ymgymryd ag ef yn fuan ynghylch gofal heb ei drefnu a rôl gofal sylfaenol lleol; ac

                        (iii)        ystyried a oes angen cynnal ymchwiliad ehangach ynghylch gofal heb ei drefnu yn sgîl pwyntiau (i) a (ii).

·         gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch y modd yr ystyrir sicrhau bod capasiti yn y system iechyd a gofal cymdeithasol, ac nid ysbytai yn unig, mewn cyfnodau o alw mawr dros gyfnod y gaeaf; a

·         gofyn am ragor o wybodaeth am y sail resymegol a fydd yn cael ei mabwysiadu i ddosbarthu'r £150 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-14.

 


Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Gofal heb ei drefnu - sesiwn friffio ar waith y grwp cynghori gweinidogol

Y Farwnes Finlay o Landaf

Veronica Snow

 

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod gwaith y grŵp cynghori gweinidogol ar ofal heb ei drefnu â'r Farwnes Finlay o Landaf a Veronica Snow o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.