Cyfarfodydd

P-04-509 Achub Canolfan Tenis Genedlaethol Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-509 Achub Canolfan Tennis Genedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn Cyngor Dinas Caerdydd am y cynigion a'r model cyfranogiad a amlinellwyd gan Tennis Cymru, ac i ofyn a fyddai’n barod i ystyried gweithio gyda Tennis Cymru yn y modd a awgrymir yn y llythyr at y Pwyllgor.  Nododd Aelodau'r Pwyllgor hefyd y byddent, pe byddai hynny'n angenrheidiol, ar gael ar gyfer cyfarfod gyda Chanolfan Tennis Abertawe. 

 

 


Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-509 Achub Canolfan Tenis Genedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

·         y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, yn gofyn am ei farn am y ddeiseb ac i ofyn iddo egluro'r sefyllfa bresennol ynghylch dynodi'r cyfleuster yn Ganolfan Tenis Genedlaethol Cymru;

·         Virgin Active, yn ceisio eglurhad ynghylch a oes ganddynt unrhyw gontractau gyda'r Cyngor neu Lywodraeth Cymru;

·         Canolfan Tenis Abertawe, yn gofyn am wybodaeth am eu profiad diweddar o ran materion ariannu;