Cyfarfodydd

Gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

NDM5519 David Rees (Aberafan)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2014.

 

Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2014.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.55

 

NDM5519 David Rees (Aberafan)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Gohebiaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: cyhoeddi ei chynllun gweithredol ar gyfer 2014-15

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Trafodaeth breifat ar adroddiad drafft y Pwyllgor ar Waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad drafft ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.


Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - ystyried y prif faterion

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y materion allweddol a godwyd yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a chytuno arnynt.

 


Cyfarfod: 07/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Grant Duncan, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyfarwyddiaeth dros Iechyd Cyhoeddus

Janet Davies, Cynghorydd Arbenigol  - Ansawdd a Diogelwch Cleifion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Holodd y Pwyllgor y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu i’r Pwyllgor er mwyn egluro a yw rhaglen waith yr Arolygiaeth yn cael ei chymeradwyo gan un o’i gyd-Weinidogion.

 


Cyfarfod: 07/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Tystiolaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Kate Chamberlain, Prif Weithredwr

Mandy Collins, Dirprwy Brif Weithredwr

Alyson Thomas, Diprwy Gyfarwyddwr Adolygu Gwasanaethau a Datblygu Sefydliadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd cynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.

 

2.2 Nododd y tystion y byddent yn croesawu cyfle i ddychwelyd i siarad â’r Pwyllgor pan fo cynllun busnes yr Arolygiaeth ar gyfer y dyfodol ar gael.

 

 


Cyfarfod: 17/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - trafodaeth breifat i ystyried y dystiolaeth.

Cofnodion:

7.1 Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth ar:

-       Flaenraglen waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru  

-       Yr ystod lawn o waith a chyfrifoldebau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

-       Gwaith a wnaed gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru dros y pum mlynedd diwethaf

-       Dilyn tystiolaeth i waith arolygu

-       Astudiaethau achos


Cyfarfod: 17/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Panel 4 - Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru

Nicola Amery, Cadeirydd Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru, Rheolwr Ysbyty Spire Caerdydd

Steve Bartley, cyn Ddirprwy Gadeirydd Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru, Rheolwr Cofrestredig Ludlow Street

Karen Healey, Cadeirydd y Grŵp Uwch-nyrsys, Cyfarwyddwr Nyrsio Vale Healthcare

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Atebodd cynrychiolwyr o Gymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru gwestiynau aelodau’r Pwyllgor.  

 

5.2 Cytunodd Nicola Amery i ysgrifennu at y Pwyllgor i egluro pryderon Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru am drefniadau diogelwch (fel y codwyd ym mharagraff 7.1. o dystiolaeth ysgrifenedig Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru).


Cyfarfod: 17/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Panel 2 - Cynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol

Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Carol Shilabeer, Cyfarwyddwr Nyrsio Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys gwestiynau aelodau’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 17/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Panel 3 - Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru a Chymdeithas y Cleifion

Cathy O’Sullivan, Cyfarwyddwr Dros Dro, Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru

Katherine Murphy, Chymdeithas y Cleifion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd cynrychiolwyr o Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru a Chymdeithas y Cleifion gwestiynau aelodau’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 17/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Panel 1 - AGGCC a Swyddfa Archwilio Cymru

Imelda Richardson, Prif Weithredwr, AGGCC

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dave Thomas, Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd cynrychiolwyr o AGGCC a Swyddfa Archwilio Cymru gwestiynau aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2. Oherwydd mater technegol, gohiriwyd y Pwyllgor rhwng 9.17 a 9.23