Cyfarfodydd
Adolygiad o'r cymorth i bwyllgorau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/11/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adolygiad o'r cymorth a roddir i bwyllgorau
papur
5
Cofnodion:
Trafododd Comisiynwyr y gwelliannau a wnaed i'r cymorth a
roddir i bwyllgorau ers iddynt ystyried y mater fis Rhagfyr diwethaf. Tynnodd y
Comisiynwyr sylw at y cynnydd da a wnaed, yn enwedig o ran darparu dogfennau
cefndir sy'n fwy cryno a darparu gwasanaethau dwyieithog, a'r gwaith arloesol a
wnaed ar y mater heriol o ymgysylltu, a ennillodd gydnabyddiaeth gan
ddeddfwrfeydd eraill fel gwaith enghreifftiol.
Siaradodd y Comisiynwyr hefyd am bwysigrwydd sicrhau bod
gwaith pwyllgor yn cael ei arwain gan y pwyllgor, rôl y Cadeirydd o ran hwyluso
gweithrediad y pwyllgor, a phwysigrwydd sicrhau bod Cadeiryddion yn cymryd rhan
mewn datblygiad proffesiynol parhaus (er enghraifft, y seminar arweinyddiaeth a
gynhelir ym mis Ionawr 2015). Roedd y
Comisiynwyr yn cydnabod y byddai hyn yn ddefnyddiol o ran datblygu'r maes
datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y pumed Cynulliad.
Trafododd y Comisiwn sut y gellid dadansoddi a gwerthuso
canlyniadau mewn modd a fydd yn llywio ymdrechion i sicrhau gwelliannau
pellach. Roedd y Comisiynwyr yn teimlo y gallai fod yn ddefnyddiol i bwyllgorau
gael data ar eu cyflawniadau i'w hystyried wrth feddwl am eu hadroddiadau
gwaddol.
Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Adolygiad o'r cymorth a roddir i bwyllgorau - Papur 3
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Cyflwynodd
Siân Wilkins bapur yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr, gan
amlinellu'r gwelliannau a wnaed i'r cymorth a roddir i bwyllgorau ers iddynt
ystyried y mater fis Rhagfyr diwethaf.
Rôl y Comisiwn yw cefnogi pwyllgorau yn hytrach na chyfeirio pwyllgorau
i weithio mewn ffyrdd penodol. Bwriad y papur oedd ceisio barn y Comisiwn
ynghylch cyfeiriad unrhyw waith pellach, a chyflwyno opsiynau ar gyfer gwaith
dadansoddi a gwerthuso manylach at ddibenion sicrhau gwelliannau a mesur
canlyniadau.
Cytunodd y Bwrdd ei fod
yn adrodd stori gadarnhaol iawn, ac roedd o'r farn bod y dull gweithredu yn awr
wedi'i ymwreiddio. Gwnaeth y Bwrdd gais i sicrhau bod y cynnydd a wnaed ar yr
adolygiad o'r Cofnod a'r gwaith a wnaed ar gyfathrebu gyda grwpiau anodd eu
cyrraedd yn cael eu cynnwys hefyd. Dylid
diweddaru'r cyfeiriad at ddatblygiad proffesiynol parhaus i Aelodau a
Chadeiryddion er mwyn adlewyrchu'r trafodaethau a gynhaliwyd rhwng y Bwrdd
Taliadau a'r Comisiynwyr ar 3 Tachwedd.
Byddai'r papur yn cael
ei gyflwyno i'r Comisiynwyr ar 17 Tachwedd.
Cyfarfod: 11/11/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Pwyllgorau Seneddol o Safon Fyd-eang
papur 2
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr yr arolwg o’r cymorth a ddarperir i Bwyllgorau’r
Cynulliad, a lansiwyd ganddynt ym mis Rhagfyr 2012. Rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf am hyn cyn toriad yr haf. Yn dilyn hynny, roedd y Comisiynwyr wedi
gofyn i waith pellach gael ei wneud i ddatblygu’r weledigaeth ar gyfer y maes
craidd hwn yng ngweithgaredd y Cynulliad ac am opsiynau ar gyfer gwella
perfformiad drwy’r adnoddau a ddarparwyd gan y Comisiwn.
Nododd y Comisiynwyr eu gweledigaeth ar gyfer pwyllgorau seneddol o safon
fyd-eang, gan gytuno:
- y dylent wella yn amlwg ansawdd canlyniadau polisi, deddfwriaeth,
gwasanaethau cyhoeddus a gwariant y Llywodraeth i’r gymdeithas gyfan yng
Nghymru;
- y dylent gael eu parchu a bod yn ddylanwadol a hygyrch, gan weithredu
gyda gonestrwydd ac annibyniaeth;
- y dylai eu gwaith fod yn strategol
a thrwyadl.
Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod bod maint y Cynulliad yn golygu bod gan
bob Pwyllgor lwyth gwaith sylweddol. Ar gyfer rhai Pwyllgorau, roedd y cynnydd
yn nifer y darnau o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn effeithio ar faint o amser
sydd ar gael i graffu ar bolisi. Cytunwyd bod y Pwyllgorau’n gweithio’n fwyaf
effeithiol pan fyddant yn ymdrin â’u gwaith mewn modd strategol. Roedd hyn yn
eu helpu i gynyddu eu heffaith a’u cyrhaeddiad.
Mae’r cymorth sydd ar gael i aelodau pwyllgorau, fel papurau briffio
dwyieithog, gwaith ymchwil a chyngor cyfreithiol, o safon uchel iawn. Mae’n
hanfodol darparu’r rhain mewn ffyrdd sy’n gweddu orau i anghenion yr Aelodau
fel y gallant wneud eu gwaith pwyllgor yn effeithiol. Dylid parhau i ymchwilio
i ffyrdd newydd o weithio i sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael eu targedu’n
dda ac yn cael yr effaith fwyaf bosibl.
Dylai’r Cadeiryddion rannu’r dulliau rhagorol o weithio sy’n gwella
perfformiad ac yn cynyddu capasiti yn rheolaidd fel y gellir mabwysiadu
arferion arloesol ar draws y Pwyllgorau. Byddai rhannu gwybodaeth yn y modd hwn
yn gwella’r perfformiad ar draws y Cynulliad, gan gadw’r hyblygrwydd sy’n
galluogi Pwyllgorau i bennu eu strategaethau eu hunain ac i ymdrin â’u llwyth
gwaith.
Roedd yr enghreifftiau o’r meysydd rhagorol a amlygwyd gan y Comisiynwyr
yn cynnwys ymgysylltu â’r gymdeithas sifil, y gwaith datblygu proffesiynol
parhaus a wnaed gan Gadeiryddion unigol a Phwyllgorau, a’r defnydd o gynghorwyr
allanol. Wrth gynghori’r Comisiwn,
canmolodd Daniel Greenberg y gwaith a wnaed eisoes gan Bwyllgorau’r Cynulliad a
chytunodd bod agweddau ar y gwaith a wneir yma yn cael eu hedmygu gan seneddau
eraill, yn enwedig y dull o gynnig datblygiad proffesiynol parhaus a’r defnydd
o arbenigedd.
Cytunwyd y byddai’r weledigaeth a’r materion craidd yn cael eu nodi mewn
adroddiad gan y Comisiwn. Byddai’r Comisiynwyr yn paratoi drafft o’r adroddiad
hwn i’w drafod, ac yna byddai trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chadeiryddion
y Pwyllgorau ac eraill.
Cyfarfod: 20/06/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adolygu’r cymorth i’r Pwyllgorau
Cofnodion:
Ym mis Rhagfyr 2012 gofynnodd y Comisiwn am adolygiad o'r
cymorth a ddarperir i bwyllgorau'r Cynulliad, a bu'r adolygiad yn edrych ar yr
amrywiaeth eang o gymorth sydd ar gael. Nod yr adolygiad oedd nodi gwelliannau
ar unwaith, er mwyn sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn cael ei lywio gan y
Cadeiryddion a'r pwyllgorau eu hunain bob amser a’i fod yn diwallu anghenion
Aelodau unigol ac anghenion y pwyllgorau.
Dros y
chwe mis diwethaf, casglwyd tystiolaeth gan gadeiryddion ac aelodau unigol
o bwyllgorau, i geisio deall eu gofynion yn well a chanfod i ba raddau roeddent
yn teimlo bod angen newid y ddarpariaeth bresennol. Roedd y farn yn amrywio,
gyda rhywfaint o dystiolaeth yn dangos bod yr Aelodau'n fodlon â'r cymorth sydd
ar gael, a rhywfaint yn dangos bod galw am rywfaint o newidiadau mewn arferion
gweithio. Roedd y gwaith wedi darparu cyfle i roi cynnig ar ffyrdd newydd o
weithio. Byddai canlyniadau Arolwg Aelodau'r Cynulliad a'u Staff Cymorth, a
oedd newydd eu casglu, hefyd yn dylanwadu ar gynigion ar gyfer newid yn y
dyfodol.
Er bod y Comisiynwyr yn teimlo bod y wybodaeth a
gyflwynwyd yn wybodaeth ddiweddar a defnyddiol ar y cynnydd hyd yma a'r
amrywiaeth o safbwyntiau a gyflwynwyd, mynegwyd pryder nad oedd y papur yn
darparu golwg strategol ar yr opsiynau a oedd ganddynt ar gyfer y dyfodol.
Teimlwyd y dylid rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu arferion gorau gan gynnwys
adnabod model ar gyfer y gwasanaethau craidd a fyddai’n darparu cymorth
seneddol o’r radd flaenaf. Roedd y Comisiynwyr am ddefnyddio dull mwy cyfannol
a chynnwys pob agwedd ar y cymorth sydd ar gael i’r Aelodau, gan gynnwys, er
enghraifft, datblygiadau technolegol a datblygiad proffesiynol parhaus. Roedd
angen i’r cynigion hefyd ystyried swm y gwaith a oedd yn ofynnol i 42 o
Aelodau’r Cynulliad ei gyflawni. Cytunwyd y byddai'r mater yn cael ei drafod
eto yng nghyfarfod y Comisiwn yn yr hydref.
Cam i’w gymryd: Cyflwynir papur arall yn yr hydref yn hyn o beth.
Cyfarfod: 03/12/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Trafod mater strategol: Cefnogi Pwyllgorau'r Cynulliad