Cyfarfodydd
Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso Aled Roberts
NNDM4724 Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn gweithredu o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
1. Yn nodi bod Aled
Roberts, pan gafodd ei ethol yn yr
etholiad a gynhaliwyd ar 5 Mai 2011 fel Aelod Cynulliad dros ranbarth etholiadol
Gogledd Cymru, yn aelod o Dribiwnlys Prisio Cymru, a’i fod felly wedi ei anghymwyso rhag
bod yn Aelod Cynulliad o dan adran 16(1) o’r Ddeddf ac Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso)
2010;
2. Hefyd yn nodi bod y sail ar gyfer anghymwyso nawr wedi’i diddymu;
3. Yn cytuno ei bod yn iawn
fod y Cynulliad yn arfer ei
bwerau o dan adran 17(3); a
4. Felly yn penderfynu
bod gwaharddiad Aled Roberts rhag
bod yn Aelod Cynulliad, ar sail yr hyn a nodir
ym mharagraff 1, yn cael ei
ddiystyru.
Dogfennau ategol:
Penderfyniad:
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
3 |
20 |
53 |
Derbyniwyd y
cynnig.
Cyfarfod: 06/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso John Dixon - TYNNWYD YN ÔL
Cyfarfod: 29/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso John Dixon - WEDI'I OHIRIO TAN 6 GORFFENNAF 2011
Cyfarfod: 29/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso Aled Roberts - WEDI'I OHIRIO TAN 6 GORFFENNAF 2011
Cyfarfod: 18/05/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
NNDM4720 TYNNWYD YN ÔL