Cyfarfodydd

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Eiddo Deallusol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Deallusol

NDM5250 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Deallusol sy’n ymwneud â rhyddid gwybodaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Bill documents — Intellectual Property Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament

Dogfen Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Llythyr gan y Cadeirydd at y Prif WeinidogMaterion yn codi o ystyriaeth y Pwyllgor
Llythyr mewn ymateb at y Pwyllgor Menter a BusnesAr gael yn Saesneg yn unig

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.52

NDM5250 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Deallusol sy’n ymwneud â rhyddid gwybodaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.