Cyfarfodydd

P-04-491 Banc Cenedlaethol ac arian cyflenwol i Gymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-491 Banc Cenedlaethol ac arian cyflenwol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         gau'r ddeiseb, gan fod Gweinidogion wedi diystyru cynlluniau i sefydlu Banc Cenedlaethol i Gymru ar hyn o bryd, ac oherwydd bod adolygiad parhaus o fynediad at gyllid yn cael ei gynnal ar hyn o bryd; a

·         anfon pwyntiau pellach y deisebydd ymlaen at Weinidogion ac at yr Athro Jones-Evans.

 


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-491 Banc Cenedlaethol ac arian cyflenwol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

·         Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a'r

·         Gweinidog Cyllid yn holi eu barn am y ddeiseb.