Cyfarfodydd

P-04-486 Gweithredu nawr er mwyn achub siopau y Stryd Fawr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-486 Gweithredu Nawr Er Mwyn Achub Siopau'r Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, cytunwyd hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer y deisebydd ynghylch y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-486 Gweithredu Nawr Er Mwyn Achub Siopau'r Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a gofynnodd i'r tîm clercio gyflwyno cynnig ar gyfer sesiwn dystiolaeth bosibl.

 

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-486 Gweithredu nawr er mwyn achub siopau y Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • gymryd tystiolaeth ar lafar ynghylch y ddeiseb;
  • gwneud cais am bapur briffio ymchwil ar y dull presennol a ddefnyddir mewn rhannau eraill o'r DU, yn arbennig yn yr Alban; 
  • ymweld â safle maes o law;
  • dosbarthu copi o adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Adfywio Canol Trefi i'r Aelodau; 
  • rhoi gwybod i'r Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach am y ddeiseb; ac 
  • ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn pryd y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn rhoi dadansoddiad llawn o Gyfraddau Busnes.

 


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-486 Gweithredu nawr er mwyn achub siopau y Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

·         Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth gan holi ei barn am y ddeiseb; a'r

·         deisebwr yn holi a yw wedi holi am farn Siambrau Masnach eraill.