Cyfarfodydd

Cydymffurfiaeth â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/05/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Craffu ar gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru ag adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a'r cynllun gweithredu Gwneud Pethau'n Iawn diwygiedig

Pat Dunmore, Swyddog Polisi Hawliau Plant, Achub y Plant a Chydgysylltydd y Grŵp Monitro CCUHP

 

Dr Simon Hoffman, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe ac Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Pat Dunmore a Dr Simon Hoffman i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y tystion i anfon eu pryderon ynghylch ‘Gwneud Pethau’n Iawn: y wybodaeth ddiweddaraf 2013’ at y Pwyllgor.

 

Tystiolaeth ychwanegol

 


Cyfarfod: 09/05/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Craffu ar gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru ag adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a'r cynllun gweithredu Gwneud Pethau'n Iawn diwygiedig

Huw Lewis AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a Martin Swain i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

(i) enghreifftiau o ble mae Asesiadau o Effaith ar Hawliau Plant wedi cael effaith ar ddeddfwriaeth neu bolisi penodol neu wedi llywio trafodaethau’r Cabinet, sydd wedi arwain at newidiadau cadarnhaol;

(ii) y wybodaeth ddiweddaraf am y mathau gwahanol o hyfforddiant a ddarperir ar y CCUHP a nifer y staff sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant hwnnw; a

(iii) nodyn ar gyfraniad rhanddeiliaid mewn perthynas â ‘Gwneud Pethau’n Iawn: y wybodaeth ddiweddaraf 2013’.

 

Tystiolaeth ychwanegol


Cyfarfod: 09/05/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru ag adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a'r cynllun gweithredu Gwneud Pethau'n Iawn diwygiedig

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gomisiynydd Plant Cymru i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tyst.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Comisiynydd Plant i anfon ei bryderon ynghylch ‘Gwneud Pethau’n Iawn: y wybodaeth ddiweddaraf 2013’ at y Pwyllgor.

 

Tystiolaeth ychwanegol