Cyfarfodydd
P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 119 KB Gweld fel HTML (3/1) 14 KB
- 14.05.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 365 KB Gweld fel HTML (3/2) 64 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a chytunodd i rannu
tystiolaeth y deisebydd gyda'r Gweinidog Addysg a gofyn iddi weithio gyda'r
Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS) Cymru i weithredu’n unol â'u
hargymhellion. Wedi hynny, cytunodd y pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 13 KB
- 03.04.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 41 KB Gweld fel HTML (3/2) 6 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr yn dilyn eu cyfarfod ag
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i gadw golwg ar hyn ac aros am
ddiweddariad arall gan y deisebwyr, cyn ystyried y ddeiseb eto.
Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 13 KB
- 20.06.17 Gohebiaeth - Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 269 KB
- 04.07.17 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/3) 3 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog dros y
Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a chytunodd i awgrymu bod Cymdeithas Genedlaethol y
Plant Byddar yn cysylltu ag ysgrifennydd dyddiadur y Gweinidog yn uniongyrchol
i drefnu cyfarfod a gofyn iddynt adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod
hwnnw.
Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 13 KB
- 11.04.17 Gohebiaeth - Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 4 MB
- 24.04.17 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 55 KB Gweld fel HTML (3/3) 27 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, gan gynnwys sylwadau diweddaraf y
deisebydd, a gofyn a fyddai ef neu ei swyddogion yn barod i gwrdd â'r deisebwyr
i drafod eu sylwadau a chynnig cefnogaeth mewn rhagor o fanylder.
Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 13 KB
- 17.01.17 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 3 MB
- 27.02.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 63 KB Gweld fel HTML (3/3) 21 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y
Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y pryderon a'r
cwestiynau a godwyd gan y deisebwyr.
Cyfarfod: 29/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-481 Cau’r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 18 KB Gweld fel HTML (3/1) 13 KB
- 18.11.16 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 75 KB Gweld fel HTML (3/2) 37 KB
Cofnodion:
Datganodd Mike Hedges y buddiant
perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ganddo ddiddordeb arbennig
yn y materion a godir gan y ddeiseb gan fod ei chwaer yn hollol fyddar.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i nodi ychydig o gefndir y ddeiseb ac i
ofyn am farn Llywodraeth Cymru ar y cynigion ar gyfer gweithredu a nodwyd gan y
deisebydd.
Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trafodaeth o’r sesiwn dystiolaeth ar 9 Rhagfyr 2014 - P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 26 KB Gweld fel HTML (2/1) 13 KB
- 09.12.2014 - Trawsgrifiad o’r sesiwn dystiolaeth, Eitem 2 PDF 94 KB Gweld fel HTML (2/2) 78 KB
Cofnodion:
2.1 Trafododd y
Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2014 a chytunodd i:
·
anelu at
ymweliad ag ysgol gyfagos i weld o lygad y ffynnon y gwaith a wnaed yno i greu
acwsteg ardderchog i bawb yn yr ysgol;
·
ysgrifennu at
y Sefydliad Acwsteg a Chymdeithas Ymgynghorwyr Sŵn yn gofyn am gael gweld
eu canllawiau ar acwsteg - disgwylir iddynt fod ar gael yn gynnar eleni; a
·
cheisio
gwybodaeth bellach am bolisi ac arfer yn Lloegr i weld beth y gellir ei ddysgu.
Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
·
Jayne
Dulson, Director NDCS Cymru
·
Elin
Wyn, Policy Adviser NDCS Cymru
·
Danyiaal
Munir, Student Cardiff & Vale College
·
Peter
Rogers, Director Sustainable Acoustics Ltd
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 26 KB Gweld fel HTML (4/1) 13 KB
- Briff Ymchwil (Saesneg yn unig) , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/2)
Cofnodion:
Atebodd y
tystion canlynol gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor:
- Jayne Dulson, Cyfarwyddwr NDCS;
- Elin Wyn, Cynghorydd Polisi NDCS;
- Danyiaal Munir, Myfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro; a
- Peter Rogers, Cyfarwyddwr Sustainable Acoustics Ltd
Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 26 KB Gweld fel HTML (2/1) 13 KB
- 26.02.2014 Gohebiaeth - Deisebydd at y tîm clercio (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 89 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan NDCS a chytunodd i edrych yn fwy
manwl ar y mater o acwsteg mewn ysgolion, yn arbennig sut y gall y Rhaglen
Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif a rheoliadau adeiladu helpu i
gynnal y gwelliannau.
Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 12 KB
- 11.12.2013 Gohebiaeth - Deisebydd i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 302 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
·
ofyn i'r deisebydd nodi maes penodol yr hoffai i'r Pwyllgor
gyflawni gwaith arno; ac
·
anfon copi, er gwybodaeth at Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar.
Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 12 KB
- 12.06.2013 Gohebiaeth - gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 107 KB
- 30.07.2013 Gohebiaeth - gan Lywodraethwyr Cymru at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 194 KB
- 13.08.2013 Gohebiaeth - gan Action on Hearing Loss at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 58 KB Gweld fel HTML (3/4) 13 KB
- 26.09.2013 Gohebiaeth - gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 75 KB
- 30.09.2013 Gohebiaeth - gan Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion yn ymwneud â Phobl Fyddar at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 318 KB
- 02.10.2013 Gohebiaeth - gan y deisebwr at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 22 KB Gweld fel HTML (3/7) 5 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
ysgrifennu
at y grŵp trawsbleidiol er mwyn rhoi gwybod iddo am yr ohebiaeth
ddiweddaraf; a
·
gofyn i'r
deisebwr a yw'n fodlon â'r ohebiaeth a gafodd, a
·
gan
ddibynnu ar ymateb y deisebwr, efallai bydd y Pwyllgor yn comisiynu darn byr o
waith ar y ddeiseb.
Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 9 KB Gweld fel HTML (4/1) 12 KB
- 12.06.2013 Gohebiaeth – Gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 107 KB
- 24.06.2013 Gohebiaeth – Gwybodaeth ychwanegol gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 195 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn
trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y
rhanddeiliaid a ganlyn, gan geisio eu barn ar y mater hwn:
·
Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru;
·
Action
on Hearing Loss;
·
Llywodraethwyr
Cymru; a
·
Chadeirydd y grŵp trawsbleidiol
ar faterion sy’n ymwneud â bod yn fyddar.
Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 9 KB Gweld fel HTML (2/1) 12 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan y deisebydd, Eitem 2 PDF 303 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.