Cyfarfodydd

P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd diffyg ymateb gan y deisebwyr, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a thrwy hynny, roi gwybod i Grŵp Trawsbleidiol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol.

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw sylwadau i'w gwneud am yr ymatebion a ddaeth i law.

 

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         aros i gael barn y deisebwyr ar yr ohebiaeth gan y Gweinidog ac Amgueddfa Cymru; a

·         gofyn i Amgueddfa Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf.

 


Cyfarfod: 30/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at;

 

·         Y  Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon; ac  

·         Amgueddfa Cymru yn ceisio eu barn am y ddeiseb