Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Debra Carter, Dirprwy Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad Llywodraeth Leol

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Democratiaeth, Moeseg a Phartneriaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, a'i swyddogion.

 

5.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol:

  • Nodyn ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd mewn perthynas ag achosion pan fo un cyngor yn etifeddu diffyg gan gyngor arall wrth uno.
  • Rhestr o'r cynghorau cymunedol a'r cynghorau tref sydd wedi cael cyllid i sefydlu presenoldeb ar y we, a pha rai o'r cynghorau hyn sydd bellach â phresenoldeb ar y we.
  • Nifer y seddi ar gynghorau cymunedol a chynghorau sir sydd wedi bod yn wag yn hirdymor.
  • Dadansoddiad o'r ystadegau ar gyfer rhyw, oedran ac ethnigrwydd cynghorwyr sir, a dadansoddiad cymharol ar gyfer cynghorwyr cymunedol.

 

 


Cyfarfod: 25/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.

 

 


Cyfarfod: 01/05/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

CELG(4)-13-13 – Papur 1

 

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Yr Is-Adran Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau.

 

 

Egwyl – 10.20 – 10.30

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodiadau ar y canlynol:

 

Lefel a defnydd o gronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol;

 

Y wybodaeth ddiweddaraf yn yr hydref am sut mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r £1.25m o gyllid ychwanegol a glustnodir i awdurdodau lleol i gynorthwyo â darlledu, mynychu o bell a gwefannau cynghorau cymuned;

 

Cychwyn yr adran sy’n ymwneud â mynychu o bell yn y Mesur Llywodraeth Leol;

 

A oes archwiliad o rywedd yn y wybodaeth am gyflogau y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ei darparu;

 

Y wybodaeth ddiweddaraf yn ei dro am yr amserlen ar gyfer cyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor;

 

Y posibilrwydd o’i gwneud yn ofynnol i Gynghorwyr gyhoeddi eu datganiadau o fuddiant ar-lein;

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a gyflwynir i Gomisiwn Silk, yn gofyn bod pob mater sy’n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol yn cael eu datganoli ac eithrio cofrestru ac etholfraint, a’r rhesymeg dros hynny;

 

Y materion posibl ynghylch strwythur systemau pleidleisio mewn llywodraeth leol pe bai ad-drefnu ar lywodraeth leol a phe na bai pwerau etholiadau yn cael eu datganoli.

 

Pan fydd ar gael, yr adroddiad gwerthuso ar y rownd olaf o gytundebau;

 

Trefniadau cyllido presennol Canolfannau Atgyweirio Ymosodiadau Rhywiol a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig a chynlluniau ar gyfer y dyfodol;

 

Pan fydd ar gael, adroddiad ar sut mae Cynllun Cyflawni’r Grŵp Arwain Atal Masnachu mewn Pobl yn dod yn ei flaen;

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am y materion a fydd yn cael eu codi a’u trafod yn y cyfarfod y bydd y Gweinidog yn ei gael gyda’r Gwasanaeth Prawf;

 

Pa waith sydd wedi ei wneud ynghylch y mater o stelcio a sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu ag agenda stelcio Llywodraeth y DU;

 

Y trefniadau ar gyfer y gwaith craffu ynghylch y pedwar consortia addysg rhanbarthol ledled Cymru;

 

Rhagor o wybodaeth am y Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus.