Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/12/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/07/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, a'i swyddogion.

 


Cyfarfod: 03/07/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

John Griffiths AM, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Huw Brodie, Cyfarwyddwr Diwylliant a Chwaraeon
Jon Westlake, Pennaeth Yr Is-Adran Chwaraeon, Hamdden Awyr Agored a Thirweddau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, a'i swyddogion.

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog a'i swyddogion i'r canlynol:

  • darparu ffigurau yn dangos y cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â henebion Cadw ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon;
  • darparu manylion am y gwaith a wnaed gan Cadw hyd yma i leihau ei ôl troed carbon a biliau cyfleustodau; 
  • darparu copi o ymateb y Cyngor Celfyddydau i'r llythyr cylch gwaith 2014-15 gan y Gweinidog;
  • trafod gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau bod angen i awdurdodau lleol sicrhau bod cysylltiad rhwng ysgolion a llyfrgelloedd yn eu hardaloedd, ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor;
  • darparu'r ffigurau ar gyfer buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amgueddfeydd y tu allan i Gaerdydd;
  • rhannu manylion am yr ymchwil a wnaed mewn perthynas â risgiau iechyd ar gyfer oedolion eisteddog mewn gwahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol;
  • trefnu bod y Pwyllgor yn cael nodyn ar y mater o sicrhau bod y fenter 'Llyfrau Llafar Cymru' yn hyfyw yn y dyfodol;
  • darparu nodyn ar effaith dod â'r Gronfa Radio Cymunedol i ben;
  • darparu nodyn ar effaith y gostyngiad yn y cyllid a ddarperir i Gyngor Llyfrau Cymru.

Cyfarfod: 27/06/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Llythyr gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon - y wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd wedi'r cyfarfod ar 15 Mai 2013

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/05/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn Graffu ar Waith y Gweinidog - Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

CELG(4)-15-13 – Papur 1

 

John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy

Marilyn Lewis, Pennaeth Yr Is-Adran CADW

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodiadau ar y canlynol:

 

Y materion diweddar ynghylch colli safleoedd treftadaeth yng Nghymru a’r posibilrwydd o ddarparu gwasanaeth tan y bydd amser ac adnoddau ar gael i ailddatblygu’r safleoedd hyn;

 

Gwybodaeth am waith allgymorth a wneir gan gwmnïau theatr yng Nghymru i ehangu cyfranogiad yn y celfyddydau mewn cymunedau;

 

Ymchwil i effaith llwyddiant clwb pêl-droed Dinas Caerdydd a chlwb pêl-droed Abertawe ar lefelau cymryd rhan mewn pêl-droed yn hytrach na gwylio chwaraeon yng Nghymru;

 

Y diweddaraf ar drafodaethau rhwng y Gweiniodg a Rheolwr Gyfarwyddwr Media Wales.