Cyfarfodydd
P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 11/10/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-474 Cefnogaeth i Wasanaethau Caplaniaeth y GIG
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 39 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 24.08.16 Gohebiaeth – Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Eitem 3 PDF 202 KB
- 19.09.16 Gohebiaeth – gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 150 KB
- 04.10.16 Correspondence - P-04-457 Petitioner to the Committee (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 31 KB Gweld fel HTML (3/4) 16 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol, a
chytunwyd i gau'r ddwy ddeiseb o gofio ystyriaeth fanwl y Pwyllgor blaenorol
o'r materion a'r datganiad clir o farn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon.
Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 71 KB Gweld fel HTML (4/1) 22 KB
- 26.07.2013 Gohebiaeth - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 133 KB
- 30.07.2013 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 75 KB
- 07.08.2013 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 233 KB
- 08.08.2013 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 150 KB
- 15.08.2013 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 143 KB
- 15.11.2013 Gohebiaeth - P-04-457 Prif ddeisebydd i'r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 205 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i:
·
Lunio llythyr drafft ar gyfer y Gweinidog yn dwyn ynghyd yr amryfal
faterion sydd wedi codi wrth drafod y ddeiseb, gan awgrymu materion i'r
Gweinidog eu trafod ymhellach; a
·
thrafod cau'r ddeiseb pan fydd hyn wedi'i wneud.
Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 5 PDF 163 KB Gweld fel HTML (5/1) 9 KB
- 06.06.2013 Gohebiaeth - Gwybodaeth ychwanegol gan y deisebwyr ar gais y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 5 PDF 306 KB Gweld fel HTML (5/2) 38 KB
Cofnodion:
Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth ar 2 Mehefin a chytunodd i ysgrifennu at:
· fyrddau iechyd lleol yn unigol a gofyn iddynt a ydynt yn cofnodi unrhyw ddata ynghylch y defnydd o wasanaethau caplaniaeth; a gofyn sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu ar draws y gwasanaethau mewn ardal bwrdd iechyd lleol; a'r
· Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi gwybod iddo am y gwaith y mae'r Pwyllgor wedi ei wneud ar y deisebau, gan amlygu pryderon deisebwr y Gaplaniaeth Elusennol am y diffiniadau o ofal ysbrydol a chrefyddol a holi a yw Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ddarparu gwasanaethau caplaniaeth.
Gan ddibynnu ar yr ymatebion gan fyrddau iechyd lleol a'r Gweinidog, efallai y bydd y Pwyllgor yn gwrando ar sesiwn dystiolaeth lafar arall ar y ddeiseb.
Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG : Sesiwn Dystiolaeth
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 7 PDF 163 KB Gweld fel HTML (7/1) 9 KB
- 25.05.2013 Gohebiaeth - Gwybodaeth ychwanegol gan y deisebydd (Saesneg yn unig), Eitem 7 PDF 177 KB Gweld fel HTML (7/2) 14 KB
Cofnodion:
Atebodd Jim Stewart ac Wynne
Roberts gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
Cytunodd Wynne Roberts i roi
rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y gwaith a wneir gan wasanaethau caplaniaeth
ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
·
grwpio’r ddeiseb gyda P-04-457, gan nodi bod y ddwy
ddeiseb yn dadlau i’r gwrthwyneb i’w gilydd;
·
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
yn ei hysbysu am y ddeiseb ac i ofyn am ei farn ar y posibilrwydd o ymestyn
gwasanaethau caplaniaeth i ganolfannau gofal eraill; a
·
chymryd tystiolaeth lafar.