Cyfarfodydd

P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chau gan na chafwyd ymateb gan y deisebydd yn ystod y pedair wythnos flaenorol. 

 

 


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y deisebwr yn holi am ei farn am lythyr y Prif Weinidog a'r dogfennau ategol, gan holi a yw hyn yn cyflawni amcanion y ddeiseb;  a

·         Chadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn tynnu sylw at y ddeiseb yng nghyd-destun gwaith diweddar ei Bwyllgor ar y pwnc.

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ei farn ar y ddeiseb ac i ofyn pryd bydd yr achos busnes a’r gwaith diwydrwydd dyladwy ar gael.