Cyfarfodydd

Adroddiadau ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/12/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Diweddariad 6 mis Dangosyddion Perfformiad Allweddol (Ebrill - Medi 2023)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr yr adolygiad o ddata’r 6 mis cyntaf (Ebrill - Medi 2023) ar gyfer y Dangosyddion Perfformiad Allweddol corfforaethol allanol a bod y mesurau dangosyddion allbwn a llwyth gwaith mewnol bellach wedi’i gwblhau, a nid oes dim meysydd amlwg yn peri pryder.


Cyfarfod: 14/03/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Canlyniad yr adolygiad o ddangosyddion perfformiad allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar newidiadau i'r dangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol, a nodwyd datblygiad mesurau dangosyddion llwyth gwaith ac allbwn mewnol. Cytunwyd i gael data dangosyddion perfformiad allweddol interim sy’n adlewyrchu pwynt chweched mis y flwyddyn.


Cyfarfod: 01/04/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Dangosyddion Perfformiad Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8
  • Cyfyngedig 9

Cofnodion:

Roedd y Comisiynwyr wedi cytuno i ystyried set newydd o ddangosyddion perfformiad corfforaethol. 

Mae'r Dangosyddion Perfformiad newydd yn parhau i gyd-fynd â nodau a blaenoriaethau'r Comisiwn, ond maent yn awr yn cynnwys dwy set o ddangosyddion byrrach a mwy penodol.  Cytunodd y Comisiynwyr ar: 

a.    Set o fesurau strategol o berfformiad corfforaethol cyffredinol; a

b.    Set o fesurau sy'n 'ymestyn' y sefydliad i ddatblygu perfformiad mewn meysydd y gellid eu gwella.

Trafododd y Comisiynwyr natur y targedau ymestynnol, gan groesawu eu datblygiad.  Gofynnwyd am naratif disgrifiadol ynghylch yr agweddau hynny ar y dangosyddion sy’n ymwneud â chaffael, iaith ac ymgysylltu. 

Bydd y dangosyddion newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd (2019-20).

Cytunodd y Comisiynwyr y bydd gwybodaeth yn ymwneud â’r ddwy set o ddangosyddion yn cael ei chynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol, yn hytrach nag mewn adroddiad perfformiad ar wahân.

 

 


Cyfarfod: 05/03/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Adolygu Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

Cyflwynodd Dave Tosh ddogfen drafod ar ddangosyddion newydd arfaethedig ac addasiadau i ddangosyddion presennol, gyda'r bwriad o nodi p'un a ydynt yn diwallu anghenion mesur perfformiad yn ddigonol. Mewn llawer o achosion, roedd y KPIs yn parhau heb eu newid gan eu bod yn fesurau priodol na ellid eu gwella'n sylweddol. Y ddelfryd oedd symud o fesurau yn seiliedig ar gyfaint i fesurau yn seiliedig ar ganlyniadau a fyddai'n adlewyrchu lefelau gwella, gwell ymgysylltu a gwell ymwybyddiaeth, er enghraifft. Nid oedd hi'n hawdd cyflawni hyn o hyd, fel oedd profiad Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, yr ymgynghorwyd â nhw yn ystod yr adolygiad. Roedd y meysydd a oedd yn anoddach eu mesur yn cynnwys, er enghraifft, effeithiolrwydd ymgysylltu.

Cytunwyd y byddai mwy o amser yn cael ei gymryd i asesu blaenoriaethau cyn gwneud newidiadau sylweddol i'r KPIs. Cytunwyd hefyd y dylid eu rhesymoli i lawr. Yn y cyfamser, byddai cyn lleied o newidiadau â phosibl. Byddai'r KPIs yn cael eu hadrodd yn flynyddol yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, a gyhoeddir ym mis Gorffennaf.

CAMAU GWEITHREDU:

cyn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, byddai nifer o ddangosyddion yn seiliedig ar ganlyniadau yn cael eu datblygu, a bydd Non Gwilym a Natalie Drury-Styles yn gweithio'n benodol ar resymoli'r KPIs.

 


Cyfarfod: 04/12/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adroddiad ar berfformiad corfforaethol Ebrill – Medi 2017

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15
  • Cyfyngedig 16

Cyfarfod: 13/11/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Ebrill – Medi 2017

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 19
  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

Cyflwynodd Dave Tosh yr adroddiad KPI ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Medi. Roedd yr adroddiad yn cyfleu darlun o berfformiad da yn erbyn y nodau strategol yn gyffredinol yn ogystal â lefel uchel o weithgaredd.  Roedd angen adolygu'r dangosyddion perfformiad yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ystyrlon yng ngoleuni newidiadau i ffocws neu dechnoleg. Byddai adolygiad yn cael ei gynnal dros y misoedd nesaf i ddiwygio a disodli'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol cyfredol.

Adolygodd y Bwrdd Rheoli y meysydd 'oren' a nododd hefyd y gallai gweithgareddau penodol ar y pryd, fel yr etholiad, effeithio ar y gymhariaeth â'r un cyfnod yn 2016.

CAMAU I’W CYMRYD:

·                Non Gwilym a Mark Neilson i adolygu'r dangosyddion ar YouTube a Senedd.tv i adlewyrchu'n well y newid i'r ffordd y rhoddir sylw i'r cyfarfod llawn.

·                Y tîm llywodraethu i adolygu Dangosyddion Perfformiad Allweddol gyda Phenaethiaid Gwasanaethau a dod yn ôl at y Bwrdd Rheoli yn gynnar yn 2018, cyn cyflwyno i'r Comisiwn.

 

 


Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Adroddiad ar brif ddangosyddion perfformiad corfforaethol (Ebrill 16-Mawrth 17)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23
  • Cyfyngedig 24

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr Adroddiad cyntaf y Pumed Cynulliad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol. Roedd yn nodi perfformiad Comisiwn y Cynulliad yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017, yn ôl y nodau strategol a bennwyd.

 

Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad a chytunwyd y dylid ei gyhoeddi.


Cyfarfod: 25/05/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 10)

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol: Ebrill 2017 - Mawrth 2017

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 27
  • Cyfyngedig 28

Cofnodion:

Byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn ar 12 Mehefin. Fel rhan o'r gwaith cynllunio tymor hwy, byddai adolygiad o'r dangosyddion perfformiad allweddol er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r nodau cywir.

 

 


Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol (Ebrill-Medi 2016)

Papur 4

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 31
  • Cyfyngedig 32

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr weld Adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol cyntaf y Pumed Cynulliad, yn dangos sut y perfformiodd Comisiwn y Cynulliad yn erbyn ei nodau strategol ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 2016.

 

Holodd y Comisiynwyr am y gwaith sy'n cael ei wneud i wella absenoldeb salwch. Yn dilyn trafodaethau blaenorol, estynnwyd llongyfarchiadau i staff am dalu cyflenwyr yn brydlon, ond gofynnwyd a oes camau'n cael eu cymryd i sicrhau bod y dull hwn o wneud taliadau'n brydlon yn gyffredin yn y gadwyn gyflenwi.

 

Croesawyd y perfformiad cadarnhaol a chytunwyd y dylid cyhoeddi'r adroddiad.

 


Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol - Adroddiad ffug ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 35
  • Cyfyngedig 36

Cofnodion:

14.0   Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol - Adroddiad ffug ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA)

ACARAC (05-16) Papur 18 - Adroddiad ffug ar DPA - papur eglurhaol fel y'i cyflwynwyd i'r Comisiwn

ACARAC (05-16) Papur 18 - Atodiad A - Adroddiad Ffug ar DPA

14.1    Roedd aelodau'r Pwyllgor yn fodlon iawn ar yr adroddiad newydd ar DPA y cyflwynwyd y fformat ar ei gyfer gan y Comisiwn ym mis Medi.  Byddai fformat a chynnwys yr adroddiad yn cael eu hadolygu'n barhaus i sicrhau bod yr adroddiad yn parhau i fod yn addas at y diben ac i roi sylw i adborth gan y Comisiwn.

14.2    Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor ynghylch gosod targedau perfformiad, cadarnhaodd Dave fod targedau'n cael eu gosod gan Benaethiaid Gwasanaeth, yn seiliedig ar adroddiadau blaenorol neu ar gydymffurfio statudol.

14.3    Anogodd y Pwyllgor i swyddogion fod yn realistig ynglŷn ag ymdrechu i gyrraedd targedau o 100%. Gwnaethant awgrymu y gallai'r adroddiad gynnwys rhai dangosyddion perfformiad allweddol sy'n seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach na dim ond targedau, ystadegau perfformiad cyfartalog o systemau allweddol a sut roedd prosiectau a rhaglenni allweddol yn mynd rhagddo.

14.4    Cytunodd Dave i ystyried awgrymiadau'r Pwyllgor a diolchodd i Victoria am ei gwaith caled wrth adolygu a llunio'r adroddiad newydd ar DPA.

Cam gweithredu i’w gymryd

-        Adroddiad ar DPA i'w ddosbarthu pan gaiff ei gyhoeddi.

 


Cyfarfod: 29/09/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru at y Cadeirydd - Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad, Ebrill 2015 - Mawrth 2016

Papur 3 - Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad, Ebrill 2015 - Mawrth 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Nododd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad, Ebrill 2015 - Mawrth 2016.

 


Cyfarfod: 19/09/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Papur i'w nodi: Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Ebrill 2015 – Mawrth 2016

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 43
  • Cyfyngedig 44

Cofnodion:

Cafodd yr Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Ebrill 2015 – Mawrth 2016 ei nodi, a chaiff ei gyhoeddi ar y wefan a'i anfon at y Pwyllgor Cyllid er gwybodaeth.

 


Cyfarfod: 19/09/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 47
  • Cyfyngedig 48

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr newidiadau arfaethedig i'r adroddiad DPA. Cafodd y DPA presennol eu datblygu yn 2013 a chawsant eu hadolygu i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion adrodd ar berfformiad y Comisiwn a'u bod yn ddefnyddiol ac yn berthnasol ar gyfer y Pumed Cynulliad.

 

Mae'r cynigion yn newid sut y mae'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cael eu cyflwyno i gynnwys nifer o ddangosyddion pennawd ac o dan y rhain, mae  dangosyddion penodol gyda thargedau. Mae'r trefniant pennawd/dangosydd hwn yn caniatáu i'r adroddiad newid dros amser, tra'n parhau i sicrhau cysondeb a'r gallu i ddangos set o ddata cymharol o'r prif ddangosyddion.

 

Cytunodd y Comisiynwyr bod y fformat newydd yn hawdd i'w ddeall ac yn haws i'w ddefnyddio, a chafodd ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 20/01/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar Berfformiad Corfforaethol: Ebrill 2015 - Medi 2015

Papur 3 – Llythyr gan Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru – 9 Rhagfyr 2015

Papur 4 – Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad: Ebrill 2015 i Fedi 2015 – Rhagfyr 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.


Cyfarfod: 11/11/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol Ebrill - Medi 2015

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 56

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiwn yr adroddiad cyntaf ar berfformiad corfforaethol y Comisiwn yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16.

 

Cyfeiriodd y Comisiynwyr yn benodol at absenoldeb oherwydd salwch, nifer yr ymwelwyr a’r nifer sy’n cymryd rhan mewn DPP. Awgrymwyd hefyd y gellid adnewyddu rhai o'r dangosyddion ac y byddai’n ddefnyddiol medru cymharu canlyniadau dros gyfnod. 

 

Cytunodd y Comisiwn i gyhoeddi’r adroddiad, ynghyd â llythyr i’r Pwyllgor Cyllid. Caiff yr adroddiad nesaf ei baratoi a’i gynhyrchu ar ôl diwedd mis Mawrth 2016.

 


Cyfarfod: 01/07/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad – Ebrill 2014 – Mawrth 2015

Papur 5 – Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Eithriodd Peter Black ei hun o’r eitem yn sgîl ei rôl fel Comisiynydd.

 

9.2 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer Ebrill 2014 tan fis Mawrth 2015.

 

9.3 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad, a chytunodd i ysgrifennu at Claire Clancy i gael rhagor o wybodaeth.

 


Cyfarfod: 21/05/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol (Ebrill 2014 – Mawrth 2015)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 63
  • Cyfyngedig 64

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr yr adroddiad perfformiad drafft, sef y drydedd fersiwn, a'r olaf, ar gyfer blwyddyn ariannol 2014-15. Roedd yn rhoi gwybodaeth am y cyfnod rhwng mis Ebrill 2014 a mis Mawrth 2015.

 

Nododd yr adroddiad nifer o uchafbwyntiau:

Perfformiad o ran darparu cymorth seneddol o'r radd flaenaf

        Cynnydd yn nifer y dysgwyr Cymraeg.

        Cwblhau'r ymarfer dewisiadau Aelodau i wella'r cymorth ar gyfer gwaith y pwyllgor.

Perfformiad o ran ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo Cymru

        Cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ar deithiau a chynnydd yn nifer yr ymwelwyr oedd wedi eu plesio.

        Wythnos ymgysylltiad lwyddiannus gyda chynnydd sylweddol mewn rhyngweithiadau cyfryngau cymdeithasol.

        Cydnabyddiaeth allanol o ran hygyrchedd a chynwysoldeb.

Perfformiad o ran defnyddio ein hadnoddau yn ddoeth

        Gwelliannau parhaus, neu lefelau cynnal perfformiad ar gyfer:

-        rheoli'r gyllideb;

-        allyriadau ynni; ac

-        lefelau boddhad yn y gwasanaethau a ddarperir i Aelodau'r Cynulliad.

Myfyriodd y Comisiynwyr ar y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer staff a'r achosion, a thrafodwyd salwch sy'n gysylltiedig â straen.

Cytunodd y Comisiynwyr i gyhoeddi'r adroddiad. Cytunwyd hefyd i newid i'w gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn. Bellach, bydd angen i'r adroddiadau gwmpasu mis Ebrill i fis Medi ac yna mis Ebrill i fis Mawrth.

 

 


Cyfarfod: 05/03/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad - Ebrill-Rhagfyr 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Trafododd y Pwyllgor adroddiad Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad ar y cyfnod rhwng Ebrill a Rhagfyr 2014.

 

5.2     Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at Claire Clancy am ragor o wybodaeth.

 


Cyfarfod: 29/01/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol, Ebrill - Mehefin 2014

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 71
  • Cyfyngedig 72

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi’r Adroddiad Perfformiad Corfforaethol drafft ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Rhagfyr 2014.

 

Ystyriodd y Comisiynwyr nifer o feysydd a drafodir yn yr adroddiad, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymweliadau gan ysgolion a gwella lefelau salwch staff.

 

Nododd y Comisiynwyr pa mor ddefnyddiol oedd yr adroddiad ond efallai bod angen ystyried ei symleiddio a pheidio â chael gormod o dargedau.

 


Cyfarfod: 19/01/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol (Ebrill – Rhagfyr)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 75
  • Cyfyngedig 76
  • Cyfyngedig 77
  • Cyfyngedig 78

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd roi sylwadau ar yr adroddiad perfformiad corfforaethol drafft ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Rhagfyr 2014 a gwirio bod y wybodaeth a ddaparwyd ganddynt wedi ei dal yn y tablau manwl. Ymhlith yr eitemau penodol o bwys, i'w cynnwys yn y cyflwyniad, roedd:

·      gwelliannau i foddhad yr Aelodau;

·      cyllideb, rheoli adnoddau ac arbedion Gwerth am Arian;

·      cyfryngau cymdeithasol, Senedd.tv, nifer yr ymwelwyr;

·      gwobrau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod;

·      arbedion costau ar ôl y cyfnod pontio TGCh; a'r

·      gwaith pellach sydd angen ei wneud ar ymgysylltu â'r cyhoedd.

Byddai trafodaeth o'r bôn i'r brig ar fformat yr adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol nesaf yn ddefnyddiol i achub y blaen ar eitemau y gellid eu cynnwys.

Camau i’w cymryd: Y Bwrdd Rheoli i ddarparu unrhyw sylwadau pellach i Dave Tosh a Gareth Watts.

 


Cyfarfod: 29/09/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

6 Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol (Ebrill - Mehefin)

papur 6

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiwn yr adroddiad perfformiad corfforaethol ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2014. Roedd y dangosyddion sy’n cael eu hadrodd wedi cael eu hadolygu dros yr haf, gan arwain at rai newidiadau:

·         targedau mwy uchelgeisiol ar gyfer dosbarthu papurau pwyllgor a chyhoeddi Cofnod y Trafodion pwyllgorau;

·         mesur newydd ar gyfer cyhoeddi Rhestrau o Welliannau wedi’u Didoli ar gyfer Biliau Cyfnod 3 (i ychwanegu at y graff amserlen ddeddfwriaethol yr ydym wedi symud at yr Atodiad gyda’r graffiau eraill);

·         manylion am gyfranogwyr rheolaidd mewn gweithgarwch DPP i adlewyrchu presenoldeb Aelodau a’u staff cymorth yn well;

·         mwy o fanylion am ryngweithiadau cyfryngau cymdeithasol, fel cyfanswm y ffigurau ymgysylltu ar gyfer Facebook, Twitter a Senedd.tv yn ogystal ag ychwanegu sawl munud o YouTube a wyliwyd; a

·         mesurau newydd ar gyfer cyflwyno TGCh a boddhad.

 

Roedd y Comisiynwyr yn teimlo bod yr adroddiad diweddaraf ar ddangosyddion perfformiad allweddol yn glir ac yn hawdd ei ddeall. Gwnaethant ofyn a ellid adolygu'r ddogfen, cyn ei chyhoeddi, er mwyn cynyddu maint y ffont a ddefnyddiwyd mewn rhai rhannau i’w gwneud yn fwy hygyrch.


Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)

Adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol rhwng Ebrill a Mehefin 2014 - Papur 8 (Papur 8 er gwybodaeth)

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd yr adroddiad drafft a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ar 29 Medi.

Cytunwyd y byddai'r Bwrdd Rheoli yn ystyried y naratif, a hynny'n benodol i egluro cynnydd i sicrhau bod y Comisiwn yn cael gwybodaeth ystyrlon am y dangosyddion.

Cam i’w gymryd: Y Bwrdd Rheoli i anfon sylwadau a geiriad posibl at Kathryn Hughes cyn gynted â phosibl.


Cyfarfod: 14/07/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol

Papur 3 ac atodiad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 87
  • Cyfyngedig 88

Cofnodion:

Cyflwynodd Dave Tosh yr argymhellion ar gyfer newidiadau i’r dangosyddion ar gyfer adroddiadau Perfformiad Corfforaethol yn y dyfodol; roedd yr adroddiad nesaf, ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2014, i gael ei gyhoeddi yn ystod tymor yr Hydref.

 

Yn dilyn blwyddyn lawn o adrodd, roedd Kathryn Hughes (y Rheolwr Risg a Llywodraethu) wedi adolygu’r dangosyddion gyda Phenaethiaid Gwasanaethau a darparwyr data. Ar sail yr adolygiad, roedd rhai dangosyddion mwy ystyrlon wedi’u cynnig.

 

Cytunodd y Bwrdd ar y materion a ganlyn:

 

·                i newid i gynhyrchu data chwarterol, yr adroddir yn eu cylch bob tymor;

·                y Penaethiaid Gwasanaethau i weithio gyda Kathryn Hughes i nodi camau penodol mewn rhai meysydd, er enghraifft, gweithio’n ddwyieithog, ac i fynd i’r afael â’r cwestiynau a godwyd yn y papur, erbyn diwedd mis Awst;

·                i gyfuno’r gwaith hwn â’r gwaith a wneir gan y Gwasanaeth Trawsnewid Strategol ar fesur manteision, lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol; a

·                y byddai gwybodaeth AD/adnoddau yn cael ei darparu i’r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.

 

Byddai’r adroddiad nesaf ar Berfformiad Corfforaethol yn cael ei adolygu gan y Comisiwn yn eu cyfarfod ar 29 Medi.


Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar Berfformiad Corfforaethol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/05/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad ar berfformiad corfforaethol Ebrill 2013-Mawrth 2014

papur 3 rhannau a,b,c

 

Cofnodion:

Mae’r Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol yn crynhoi perfformiad yn ôl Dangosyddion Perfformiad Allweddol y Comisiwn yn ystod 2013-14. 

Drwy gydol y flwyddyn, gwelwyd cynnydd yn y rhan fwyaf o feysydd. Nododd y Comisiynwyr fod y dangosyddion ar gyfer y rhaglen gwerth am arian, perfformiad cyllidebol, a strwythurau llywodraethu cryf wedi bod yn gyson gryf drwy gydol y flwyddyn. Prosiectau llwyddiannus eraill yn ystod y cyfnod adrodd diweddaraf (Ionawr - Mawrth 2014) oedd y prosiect trawsnewid TGCh a’r prosiect cyfieithu peirianyddol.

Byddai rhai dangosyddion yn cael eu haddasu ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf, i sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol, a’u bod yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol at ddibenion monitro.

Caiff yr adroddiad ei rannu â Phwyllgor Cyllid y Cynulliad a’i gyhoeddi ar wefan y Comisiwn.


Cyfarfod: 12/03/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar Berfformiad Corfforaethol: Llythyr gan Angela Burns AC (20 Chwefror 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 30/01/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol

papur 5 ac atodiad                                                                                                                                 

Cofnodion:

Roedd yr ail adroddiad, a oedd yn dangos cynnydd a wnaed yn ôl Dangosyddion Perfformiad Allweddol y Comisiwn o ran gweithgarwch rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2013, yn nodi y gwnaed cynnydd da mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys yr ystâd, TGCh, Ieithoedd Swyddogol a bwrw ymlaen â’r prosiect i Ymgysylltu â Phobl Ifanc.

Gellid gweld bod perfformiad wedi gwella dros y cyfnod o ran amseroldeb y gwasanaethau a ddarparwyd, a tharfiadau ar gyfarfodydd pwyllgor / y Cyfarfod Llawn. Gofynnodd y Comisiynwyr a oedd modd i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys dangosydd i nodi canran y papurau a gyhoeddwyd ar amser ar mod.gov.

 

Er y gellid gweld gwelliant o ran perfformiad hefyd yn ôl nifer yr ymwelwyr â’r Cynulliad a nifer y rhai sy’n rhyngweithio â ni yn y cyfryngau cymdeithasol, roedd nifer y bobl a oedd yn defnyddio Senedd.tv wedi lleihau. Roedd darlledu a hybu adroddiadau pwyllgorau’r Cynulliad yn y cyfryngau print hefyd wedi lleihau. Cytunwyd y dylid ailystyried y dangosydd ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd.

Nid oedd y perfformiad wedi cyrraedd y targed o ran lefelau lleihau ein defnydd o ynni. Cytunodd y Comisiynwyr y byddai angen iddynt ystyried buddsoddi ymhellach o ran cynaliadwyedd, neu ail-edrych ar y targedau lleihau ein defnydd o ynni.

Cyhoeddir yr Adroddiad ar y Perfformiad Corfforaethol ar wefan y Comisiwn a’i ddosbarthu i aelodau Pwyllgor Cyllid y Cynulliad.


Cyfarfod: 18/07/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol

papur 3 ac atodiad

Cofnodion:

Wrth iddo graffu ar gyllideb y Comisiwn ym mis Hydref 2012, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai'r Comisiwn gyhoeddi dangosyddion perfformiad blynyddol. Ysgrifennodd y Comisiwn at y Pwyllgor Cyllid i'w hysbysu am y dangosyddion arfaethedig ac esbonio y byddai'r broses ailadroddol honno yn datblygu dros amser.

Roedd y cyntaf o'r adroddiadau hynny, ar gyfer perfformiad rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2013, yn rhoi trosolwg o berfformiad mewn nifer o feysydd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o dargedau mesuradwy neu, lle nad oedd targed amlwg, defnyddiwyd cymaryddion. Defnyddiwyd statws Coch, Melyn a Gwyrdd i ddangos cyrhaeddiad perfformiad.

Cynigiodd y Comisiynwyr newidiadau mewn rhai meysydd a chytuno y dylid symleiddio'r ddogfen cyn ei chyhoeddi fel y gall darllenwyr weld trosolwg yn hawdd o berfformiad yn gyffredinol ac unrhyw feysydd sy'n peri pryder.  

Bydd yr adroddiad yn cael ei ddiwygio yn unol â sylwadau'r Comisiynwyr, ei anfon at y Pwyllgor Cyllid a'i gyhoeddi ar wefan y Cynulliad.  Cytunwyd, felly, na fyddai papur y cyfarfod yn cael ei gyhoeddi.


Cyfarfod: 12/06/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Trafod dangosyddion perfformiad allweddol Comisiwn y Cynulliad

FIN(4)-10-13 Papur 11

Dogfennau ategol:

  • Papur 11 (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Comisiwn y Cynulliad.

 

7.2 Cytunodd y Clerc i ddrafftio llythyr i Gomisiwn y Cynulliad yn nodi eu cynnig ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol a gofyn am gymariaethau â’r blynyddoedd/tymhorau blaenorol lle y bo’n gymwys.


Cyfarfod: 28/02/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Adrodd ar berfformiad corfforaethol

Cofnodion:

Wrth iddo graffu ar gyllideb y Comisiwn, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai’r Comisiwn gyhoeddi dangosyddion perfformiad blynyddol. Bu’r Comisiynwyr yn trafod ystod o ddangosyddion arfaethedig a fyddai’n dangos cynnydd tuag at Nodau Strategol y Comisiwn. Byddai’r rhain yn cael eu cyhoeddi’n gyson, ac roeddent yn debygol o esblygu a chael eu mireinio dros amser.

 

Cytunodd y Comisiynwyr y byddai angen i’r dangosyddion fod yn ansoddol yn ogystal ag yn feintiol, ac y byddai cynnydd yn erbyn targedau yn cael ei ddangos lle bo hynny’n briodol. Byddai meincnodi yn erbyn sefydliadau eraill hefyd yn dangos faint o gynnydd sy’n cael ei wneud, er na fyddai hyn yn bosibl ym mhob maes.

 

Pwysleisiwyd yr angen i gynnwys dangosyddion a oedd yn berthnasol i berfformiad y Comisiwn. Awgrymwyd newidiadau i’r cynigion yn y papur yn y meysydd a ganlyn:

 

  • Gwasanaethau dwyieithog a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg;
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd drwy’r wefan, Senedd TV a chyfryngau cymdeithasol;
  • Sylw yn y cyfryngau y tu mewn a’r tu allan i Gymru, gan gynnwys sylw mewn cyfryngau gwahanol i’r arfer;
  • Cysylltiadau â chynrychiolwyr rhyngwladol;
  • Lefel yr ymgysylltu â’r gymdeithas sifig;
  • Gwell ymgysylltiad â grŵpiau syn anodd eu cyrraedd;
  • Rheoli risg;
  • Boddhad defnyddwyr â TGCh.

 

Cytunwyd y dylid ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid ar ddangosyddion perfformiad.

 

Cam i’w gymryd: Y Bwrdd Rheoli i adolygu’r dangosyddion.