Cyfarfodydd
Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/12/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-32-13
papur 3
PAC(4)-32-13
papur 4
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.1 Nodwyd yr
ymatebion, a dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol wrth y Pwyllgor bod Swyddfa
Archwilio Cymru yn bwriadu gwneud rhagor o waith ar y mater hwn. Bydd y
Pwyllgor yn dychwelyd at y mater hwn pan fydd canlyniadau'r gwaith hwnnw ar
gael.
Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Trafod yr adroddiad drafft 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd'
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
Cofnodion:
4.1 The Committee comments on its draft report ‘Consultant
Contract in Wales: Progress with Securing the Intended Benefits’.
3.2 The Committee agreed to consider an amended draft report
via email with the aim of publishing the report during the summer recess.
Cyfarfod: 23/04/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd - Ystyried y Dystiolaeth
Cofnodion:
Cyfarfod: 23/04/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd - Tystiolaeth gan y Bwrdd Iechyd
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-11-13 - Pwynt gweithredu - Bwrdd Iechyd Hywel Dda (saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 123 KB
- Pwynt Gweithredu - o Adam Cairns ar - Y Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 127 KB Gweld fel HTML (2/2) 9 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Adam Cairns, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; Janet Wilkinson, Cyfarwyddwr y Gweithlu, Bwrdd Iechyd Hywel Dda; Dr Sue Fish, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Hywel Dda; a Richard Tompkins, Cyfarwyddwr, Uned Cyflogwyr GIG Cymru.
2.2
Holodd y Pwyllgor y tystion.
Camau i’w cymryd:
Bwrdd Iechyd
Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
· Rhagor o wybodaeth am hysbyseb ym maes awyr Bryste yn hyrwyddo meddygfeydd preifat ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro;
Cytunodd Bwrdd
Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddarparu:
· Eglurhad am y broses rhwng yr ymarferydd cyffredinol a’r meddyg ymgynghorol i roi cleifion sydd ar restrau aros gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar lwybr carlam.
Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd - tystiolaeth gan Gymdeithas Feddygol Prydain
Dr Sharon Blackford, Cadeirydd, Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol Cymru
Dr Trevor Pickersgill, Dirprwy Gadeirydd, Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol Cymru
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Dr
Sharon Blackford, Cadeirydd
Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol Cymru;
a Dr Trevor Pickersgill,
Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol Cymru.
3.2 Bu’r Pwyllgor yn
holi’r tystion ynghylch canfyddiadau adroddiad yr Archwilydd
Cyffredinol, ‘Contract Meddygon
Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd’.
Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd - tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Is-Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ruth Hussey, Prif Swyddog Feddygol, Yr Is-Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Chris Jones, Dirprwy Prif Swyddog Feddygol, Yr Is-Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant; Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol, yr Adran Iechyd,
Gwasanaethau Cymdeithasol a
Phlant; a Chris Jones, Dirprwy
Brif Swyddog Meddygol, yr Adran
Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant.
2.2 Bu’r Pwyllgor yn
holi’r tystion.
Camau i’w
cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
·
Amserlen yn amlinellu sut
y bydd y GIG yng Nghymru yn gweithredu'r
argymhellion a wnaed yn adroddiad Swyddfa
Archwilio Cymru;
· Rhagor o wybodaeth am brosiectau y mae'r GIG yng Nghymru wedi comisiynu CHKS i ymgymryd â nhw, ac eglurhad ynghylch sut ddaeth y GIG yng Nghymru i'r casgliad bod y cytundeb yn cynrychioli gwerth da am arian;
·
Adborth ar y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa
Ystadegau Gwladol ynghylch mesurau teg ac ystyrlon o gynhyrchiant meddygon ymgynghorol;
·
Eglurhad am y trefniadau sydd ar waith i werthuso’r
effaith y mae ymrwymiadau gwaith preifat meddygon ymgynghorol yn ei chael ar
eu hymrwymiadau yn y GIG;
· Rhagor o wybodaeth am sut mae cyrff y GIG yn mynd ati i adennill costau gan feddygon ymgynghorol os byddant yn defnyddio cyfleusterau'r GIG i ymgymryd â gwaith preifat, ac a fu achosion lle mae'r GIG wedi prynu amser meddygon ymgynghorol a ddyrannwyd ar gyfer gwaith preifat;
· Rhagor o wybodaeth ynghylch a yw effaith y trefniadau gweithio hyblyg sy'n deillio o'r contract diwygiedig wedi cynyddu'r nifer o feddygon ymgynghorol sy’n fenywod.
Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Ystyried tystiolaeth ar y Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd
Cofnodion:
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd fel rhan o’i ymchwiliad i Gontract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd.
Cyfarfod: 05/03/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd'
Cofnodion:
7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod sut yr oedd am ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd', a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr.
Cyfarfod: 05/03/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Sesiwn Friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd'
PAC(4) 07-13 – Papur 2 – Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Dave Thomas, Cyfarwyddwr Grŵp; a Malcolm Latham o’r adran Archwilio Perfformiad i’r cyfarfod.
3.2 Cafodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei wahodd gan y Cadeirydd i wneud cyflwyniad i’r Pwyllgor ar ei adroddiad: 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd'.