Cyfarfodydd
Tlodi Plant
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/03/2013 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Trafod llythyr drafft - Cyfarfod Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar 27 Chwefror 2013
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/1)
Cofnodion:
Cytunodd yr Aelodau ar eiriad y llythyr, yn amodol ar newid yn y paragraff olaf ond un.
Cyfarfod: 27/02/2013 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Tlodi plant - Craffu ar waith y Gweinidog
Dogfennau ategol:
- CSFM(4) 01-13 (p2) Tlodi plant - Craffu ar waith y Gweinidog, Eitem 3 PDF 136 KB Gweld fel HTML (3/1) 24 KB
Cofnodion:
3.1 Gyda'r Prif Weinidog ar
gyfer yr eitem hon roedd Kate Cassidy, Cyfarwyddwr Cymunedau a Chyfiawnder
Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru ac Eleanor Marks, Dirprwy Gyfarwyddwr yr
Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru.
3.2 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar
waith y Prif Weinidog yn y meysydd a ganlyn:
• Tlodi plant a gweithio trawsadrannol;
• Targedau a mesurau tlodi plant;
• Rôl Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Llywodraeth y DU;
• Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
3.3 Nododd y Cadeirydd bod data sy'n dangos bod yr Alban wedi bod yn fwy llwyddiannus na gwledydd eraill o ran lleihau tlodi plant. Bydd y Prif Weinidog yn ysgrifennu at y Cadeirydd i amlinellu ei farn am y mater hwn a'r rhesymau dros hynny.