Cyfarfodydd

CLA215: Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013

NDM5183 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2013.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.11

NDM5183 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 25/02/2013 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.1)

3.1 CLA215 - Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013

Y weithdrefn negyddol. Fe’i gwnaed yn 2013. Ni nodwyd dyddiad gosod. Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1.

Dogfennau ategol: