Cyfarfodydd

P-04-461 Achub Pwll Padlo Pontypridd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-461 Achub Pwll Padlo Pontypridd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn y ddeiseb.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb am fod y pwll wedi cael ei ystyried ar gyfer ei restru ar dair achlysur ac nad oedd wedi bodloni’r meini prawf.


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-461 Achub Pwll Padlo Pontypridd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; a

·         cheisio barn y deisebwr am yr ohebiaeth gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

 

O dan Reol Sefydlog 17.47, gohiriodd y Pwyllgor y cyfarfod i aros am y tystion.

 

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-461 Achub Pwll Padlo Pontypridd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         geisio briff cyfreithiol ar y ddeiseb; ac i

·         ysgrifennu at Gyngor Rhondda Cynon Taf i holi pam na chafodd y pwll padlo ei gynnwys yn y cynlluniau ailddatblygu.