Cyfarfodydd

P-04-460 Moddion nid Maes Awyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-460 Moddion nid Maes Awyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         gau'r ddeiseb o ystyried y ffaith bod y deisebydd wedi nodi y gall y Pwyllgor ddod â'i waith yn hyn o beth i ben ac y bydd yn chwilio am drywydd arall yn sgîl penderfyniad y Gweinidog i gymeradwyo argymhelliad Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan i beidio ag argymell Pegvisomant; a

·         monitro cylchrediad Datganiad y Gweinidog am y camau nesaf yn sgîl yr adolygiad o'r arfarniad o feddyginiaethau amddifad a thra amddifad yng Nghymru.

 

 

 


Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-460 Moddion nid Maes Awyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·                     wahodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i roi tystiolaeth lafar am y pryderon a godwyd gan y deisebwr, ac i fynegi pryder ynghylch diffyg ymateb; ac

·                     ysgrifennu at y Gweinidog yn holi am amserlen yr adolygiad o afiechydon prin ac a fydd hynny'n effeithio ar y materion y mae'r ddeiseb yn ymdrin â nhw.

 

 


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-460 Moddion nid Maes Awyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         rannu datganiad ysgrifenedig diweddar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â'r deisebwr, ac i holi ei farn am yr ohebiaeth gan y Gweinidog a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru; ac

·         ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru am y pryderon am yr amser y mae'n ei gymryd i ymateb i'r Pwyllgor.   

 

Awgrymodd y Pwyllgor efallai y byddai'n ystyried gwrando ar sesiwn dystiolaeth lafar gan bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-460 Moddion nid Maes Awyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Y Gweinidog Iechyd; a

·         Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i geisio eu barn am y ddeiseb.