Cyfarfodydd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Plant a Phobl Ifanc
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas ag ysmygu mewn cerbydau preifat sy’n cludo person neu bersonau o dan 18 oed
NNDM5427 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud
ag ysmygu mewn cerbydau preifat sy’n cario person neu bersonau o dan 18 oed,
i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror
2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld
copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2013-14/childrenandfamilies.html [Saesneg
yn unig]
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NNDM5427
Mark Drakeford (Cardiff West)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud ag ysmygu mewn cerbydau preifat sy’n cario
person neu bersonau o dan 18 oed, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
3 |
4 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas â phrynu tybaco ac yn y blaen ar ran plant, a gwahardd gwerthu nwyddau sy’n cynnwys nicotin (e-sigaréts ac yn y blaen) i bobl o dan 18 oed a chreu troseddau cysylltiedig
NDM5424
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud â phrynu neu ymgais i brynu tybaco neu bapurau
sigarét ar ran personau sydd o dan 18 oed a gwahardd gwerthu cynhyrchion
nicotin i bersonau o dan 18 oed a throseddau, amddiffyniadau, cosbau a chamau
gorfodi etc cysylltiedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill
documents — Children and Families Bill [HL] 2012-13 to 2013-14 — UK Parliament
(Saesneg yn unig)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.53
NDM5424 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau
yn y Bil Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud â phrynu neu ymgais i brynu tybaco neu
bapurau sigarét ar ran personau sydd o dan 18 oed a gwahardd gwerthu
cynhyrchion nicotin i bersonau o dan 18 oed a throseddau, amddiffyniadau,
cosbau a chamau gorfodi etc cysylltiedig i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Am
14.53, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am ddeg munud. Cafodd y gloch ei
chanu bum munud cyn ailgynnull ar gyfer trafodion Cyfnod 3 ar y Bil
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas ag adran 38 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (Perfformiadau)
NDM5390
Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd, sy’n ymwneud
â diddymu adran 38 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963, i’r graddau y mae’n dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar
20 Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld
copi o’r Bil ewch i:
Bill
documents — Children and Families Bill [HL] 2012-13 to 2013-14 — UK Parliament
(Saesneg yn unig)
Dogfen Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 16.41
NDM5390
Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd, sy’n ymwneud
â diddymu adran 38 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963, i’r graddau y mae’n dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar
20 Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas â rheoleiddio deunydd pacio manwerthu cynhyrchion tybaco, rheoli cynhyrchion tybaco eu hunain a chreu troseddau cysylltiedig
NDM5389
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy'n
ymwneud â rheoleiddio pecynnu manwerthol cynhyrchion tybaco, rheoleiddio'r
cynhyrchion tybaco eu hunain a chreu troseddau cysylltiedig, i'r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld
copi o’r Bil ewch i:
Bill
documents — Children and Families Bill [HL] 2012-13 to 2013-14 — UK Parliament
(Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Trawsysgrifiad
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- 16 Ionawr 2014
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 16.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NDM5389
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy'n ymwneud â
rheoleiddio pecynnu manwerthol cynhyrchion tybaco, rheoleiddio'r cynhyrchion
tybaco eu hunain a chreu troseddau cysylltiedig, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
3 |
1 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Plant a Theuluoedd - Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mark
Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ategol:
- HSC(4)-01-14 Papur 5, Eitem 6 PDF 28 KB Gweld fel HTML (6/1) 13 KB
- HSC(4)-01-14 Papur 5 Atotiad A, Eitem 6 PDF 232 KB
- HSC(4)-01-14 Papur 5 Atotiad B (Saesneg yn unig), Eitem 6 PDF 153 KB Gweld fel HTML (6/3) 22 KB
Cofnodion:
6.1 Ymatebodd
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dr Ruth Hussey, y Prif Swyddog
Meddygol, i gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor.
6.2 Cytunodd
y Prif Swyddog Meddygol y byddai'n ceisio adolygu'r dystiolaeth yn ymwneud â'r
effaith y gallai pecynnau plaen ei chael ar ddewis ysmygwyr o sigaréts tar
isel. Cytunodd i ymateb i'r cwestiwn hwn mewn pryd ar gyfer y ddadl Cyfarfod
Llawn, sydd i'w chynnal ar 21 Ionawr, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol
perthnasol.
6.3. Gofynnodd y Pwyllgor fod
y llythyr yr ysgrifennodd y Gweinidog at Weinidog y DU dros iechyd cyhoeddus
ynghylch rheoleiddio pecynnau manwerthu cynhyrchion tybaco gael ei rannu cyn y
ddadl Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf, os nad yw eisoes yn ddogfen gyhoeddus.
Dywedodd y Gweinidog y gall fod cyfyngiadau sy'n ymwneud â chyfathrebu rhwng y
Gweinidogion ond byddai'n ystyried beth ellid ei wneud.
Cyfarfod: 14/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas â diwygio adran 98(1) o'r Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002
NDM5383
Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy'n
ymwneud â diwygiadau i adran 98(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i'r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3
Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld
copi o’r Bil ewch i:
Dogfennau'r
Bil — Y Bil Plant a Theuluoedd [Tŷ'r
Arglwyddi] 2012-13 i 2013-14 —
Senedd y DU
(Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.38
NDM5383
Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy'n ymwneud
â diwygiadau i adran 98(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i'r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3
Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Theuluoedd
NDM5164 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Plant
a Theuluoedd, sy'n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Plant 1989 (adran 31A (4A)) ac
adrannau 125 i 131 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Dogfennau Ategol:
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/childrenandfamilies.html
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
ar y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.27
NDM5164 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Plant a Theuluoedd, sy'n ymwneud
â diwygiadau i Ddeddf Plant 1989 (adran 31A (4A)) ac adrannau 125 i 131 o
Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 21/03/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Theuluoedd
Cyfarfod: 28/02/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ystyried y dull o weithio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Plant a Theuluoedd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Bu’r Pwyllgor
yn ystyried ei ddull o weithio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar
gyfer y Bil Plant a Theuluoedd, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth bellach.