Cyfarfodydd

P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio mai’r unig bwynt sy’n weddill yn y mater yw pwynt tri o’r ddeiseb, ac mae’r deisebwyr wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw beth pellach y maent am ei ychwanegu.

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 13/05/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at ColegauCymru i ofyn am wybodaeth ynghylch pa goleg oedd heb ymrwymo eto i’r contract Cymru Gyfan ar gyfer darlithwyr Addysg Bellach.

 


Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd fod pwyntiau 1, 2 a 4 o'r ddeiseb ar ei hôl hi ac ni ddylid bwrw ymlaen â hwy ymhellach ac y dylid ystyried cau'r ddeiseb.  Fodd bynnag, cyn gwneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau am bwynt 3 a gofyn am amserlen ar gyfer cyflwyno contract Cymru gyfan ar gyfer darlithwyr addysg bellach.

 

 


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         rannu'r ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a'r deisebwr â'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc; ac i

·         aros am adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru).

 

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i amlygu pryderon y deisebydd nad oedd ei ohebiaeth yn mynd i’r afael â phwynt cyntaf y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb.