Cyfarfodydd

P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-456 Dementia – Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb ac fe hysbyswyd y deisebydd fod modd cyflwyno deiseb arall yn y dyfodol, pe dymunai.

 


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-456 Dementia – Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar y mater.

 


Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Gweinidog hysbysu'r Pwyllgor yn gyson iawn o unrhyw ddatblygiadau yn y maes hwn a chadw golwg ar y mater; ac

·         wrth wneud hynny, gofyn i'r Gweinidog ystyried ac egluro sut y bydd yn newid y broses ar gyfer ymgynghoriadau yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod ystyriaeth o farn a phrofiad y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan hyn. 

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

1.   ofyn i’r deisebydd roi gwybod i’r Pwyllgor am y datblygiadau ar ôl bod mewn cysylltiad â swyddogion y Gweinidog ac i ystyried y ddeiseb eto ar ôl cael y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebydd; ac

2.   ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo ystyried ehangu ymgynghoriadau tebyg yn y dyfodol i bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.  

 


Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu ar frys at y Gweinidog i:

 

·         gyfleu sylwadau'r deisebydd a gofyn pa gamau a gymerwyd i gynnwys y deisebydd yn y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen a'r ymgynghoriad, fel y nodwyd yn llythyr 3 Awst; a

·         gofyn a yw'n bosibl o hyd i ystyried barn y deisebydd.

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd yr adolygiad o Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus y GIG; a

·         phan geir yr ymateb hwnnw, ystyried tynnu sylw'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog; ac 
  • aros i weld canlyniadau'r ymgynghoriad ar yr adolygiad o'r fframwaith.

 


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth ar 2 Gorffennaf, a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan anfon copi at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol  yn gwneud cais i gynnwys y deisebydd mewn trafodaethau â rhanddeiliaid ynghylch datblygu’r fframwaith a thynnu sylw at y materion a godwyd yn y dystiolaeth lafar.


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi: Sesiwn Dystiolaeth

Helen Jones – Prif Ddeisebydd

 

Tony Alexander – Adfocad gyda'r Gymdeithas Alzheimers

 

Lisa Morgan – Hugh James, Cyfreithwyr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Helen Jones, Tony Alexander a Lisa Morgan gwestiynau gan y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan nodi bod Cymdeithas Alzheimer yn cefnogi'r galw i ychwanegu lefel difrifol i'r Offeryn Gwneud Penderfyniadau a holi os yw'n bwriadu cadw ymrwymiad y Gweinidog blaenorol i adolygu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal parhaus, a'r amserlen ar gyfer y fath adolygiad;

·         ysgrifennu at Swyddfa Archwilio Cymru yn holi am gopi a'i hadroddiad ar ofal iechyd parhaus pan fydd wedi ei gyhoeddi; 

·         ceisio yamteb gan Dementia UK; ac i

·         wahodd y deisebwr i roi tystiolaeth lafar.

 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;

·         Dementia UK; a’r

·         Gymdeithas Alzheimer i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

Gall y Pwyllgor wahodd y deisebydd i roi tystiolaeth lafar yn y dyfodol.