Cyfarfodydd

Arolwg AS a Staff Cymorth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/12/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Canlyniadau Arolwg Aelodau a Staff Cymorth

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr ganlyniadau Arolwg Boddhad 2023 yr Aelodau / Staff Cymorth, a gynhaliwyd rhwng 18 Medi a 15 Hydref 2023 ac a oedd ar agor i 60 Aelod a 267 o Staff Cymorth.

Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau Arolwg Boddhad 2023 yr Aelodau / Staff Cymorth, ac y bydd crynodeb o'r canlyniadau, fel mewn blynyddoedd blaenorol, yn cael ei rannu gyda'r Bwrdd Taliadau Annibynnol a'i gyhoeddi. Roeddent yn croesawu bod Dangosyddion Perfformiad Allweddol wedi'u bodloni a bod y gyfradd ymateb i'r arolwg wedi cynyddu ers y blynyddoedd blaenorol, ac yn ystyried ei bod yn bleser gweld y cynnydd yn y gefnogaeth a ddarperir mewn perthynas â rhai gwasanaethau yn cael ei adlewyrchu yng nghanlyniadau'r arolwg.


Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Adroddiad ar Ganlyniadau Arolwg yr Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Cyflwynwyd canlyniadau'r arolwg o’r Aelodau a’u staff cymorth yn 2022 i’r Comisiynwyr. Y canlyniadau hyn fydd yn ffurfio’r data sylfaenol ar gyfer y Chweched Senedd.

Mynegodd y Comisiynwyr ddiddordeb yn y gwasanaethau a ddarperir i gefnogi llesiant gan fod rhai o’r ymatebwyr wedi nodi diffyg ymwybyddiaeth ohonynt, a holwyd ynghylch cynnydd yr adolygiad urddas a pharch a oedd wedi’i lywio gan ymatebion i’r arolwg. Cawsant wybod y byddai’r adroddiad hwn yn dod gerbron y Comisiwn erbyn yr hydref.

Cytunodd y Comisiynwyr i rannu canfyddiadau perthnasol â'r Bwrdd Taliadau, cyn rhannu'r adroddiad ar y canlyniadau â'r Aelodau, eu staff cymorth a staff y Comisiwn drwy gyhoeddi’r wybodaeth hon yn fewnol.


Cyfarfod: 07/12/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Arolwg yr Aelodau a’u staff cymorth 2020

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 10
  • Cyfyngedig 11
  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

Gwelodd y Comisiynwyr ganlyniadau arolwg yr Aelodau a’u staff cymorth 2020, a nodwyd y byddai’r data o’r arolwg yn cyfrannu at ddau Ddangosydd Perfformiad Allweddol yn Adroddiad Blynyddol 2020-21 y Comisiwn. Gwnaethant drafod gwerth clywed barn yr Aelodau gan ddefnyddio’r arolwg gan gytuno y dylai barhau i gael ei ddefnyddio fel un o'r ffyrdd o gael adborth. Gan gydnabod y gyfradd ymateb isel yn yr arolwg hwn, myfyriodd y Comisiynwyr y byddai'n rhesymol tybio bod pobl sy'n anhapus â gwasanaethau yn fwy tebygol o flaenoriaethu llenwi arolwg o'r fath na’r rhai a oedd yn fodlon.

Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau’r arolwg a chytunwyd i rannu adroddiad ar y canlyniadau yn y ffyrdd arferol; ac i rannu crynodeb o'r canfyddiadau perthnasol â’r Bwrdd Taliadau.


Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Canlyniadau arolwg yr Aelodau a’u staff cymorth 2019

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15
  • Cyfyngedig 16
  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

Rhoddwyd crynodeb i’r Comisiynwyr o Arolwg Aelodau’r Cynulliad a’u Staff Cymorth 2019. Yn unol â phenderfyniad y Comisiwn yn 2018, roedd yr arolwg eleni yn fyrrach ac yn bennaf roedd yn casglu data meintiol i ganiatáu ar gyfer cymariaethau a monitro perfformiad o flwyddyn i flwyddyn.

 

Nododd y Comisiynwyr ganfyddiadau’r Arolwg, a chytunwyd i’w rannu â’r Aelodau a’u staff yn ddiweddarach y mis hwn.

 


Cyfarfod: 04/06/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Canlyniadau arolwg Aelodau'r Cynulliad a staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2018

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20
  • Cyfyngedig 21

Cyfarfod: 04/05/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Arolwg Boddhad yr Aelodau a’u Staff Cymorth ar gyfer 2017

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 24
  • Cyfyngedig 25

Cofnodion:

Croesawodd y Bwrdd Rebecca Hardwicke a Carys Rees i drafod canlyniadau arolwg boddhad cyntaf y Pumed Cynulliad. Nod yr arolwg oedd rhoi adborth er mwyn helpu i gyrraedd nod y Comisiwn o ddarparu Cefnogaeth Seneddol o'r Radd Flaenaf. 

Nododd y Bwrdd, ar y cyfan, fod y canlyniadau'n dangos ymateb cadarnhaol i wasanaethau a ddarperir a bod cynnydd bach yn y sgorau yn gyffredinol. Gwnaed mwy o waith allgymorth gyda swyddfeydd etholaethol dros y cyfnod drwy TGCh, Diogelwch, Datblygiad Proffesiynol, Cyswllt Cyntaf Gogledd Cymru a Chymorth Busnes i'r Aelodau, gydag arolwg wedi'i deilwra yn cael ei gynhyrchu ar gyfer staff etholaethol.

Cafodd y canlynol ei gytuno:

·              byddai ymholiadau a materion a godwyd gan unigolion a oedd wedi nodi pwy oeddent yn cael eu holrhain mewn ffordd gyfannol, gan gynnwys yr holl wasanaethau perthnasol;

·              byddai Penaethiaid yn ystyried sut i ymgorffori adborth i'r broses o gyflwyno gwasanaethau lle bo hynny'n ymarferol; yn ogystal â sylwadau ar ymgysylltu a'u heffaith ar eu maes gwasanaeth eu hunain;

·              byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ffyrdd o'i gwneud yn haws i weithio yn Saesneg, lle mae'r testun Cymraeg yn ymddangos yn gyntaf;

·              byddai'n werth cymharu adborth o'r arolwg staff sydd ar y gweill ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol a pharatoi i ymateb;

·              byddai gwelliannau o bob gwasanaeth yn cael eu coladu ar ddiwedd y cyfnod ac yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad o Uchafbwyntiau i'r Comisiwn; a

·              byddai neges yn cael ei darparu i'r Aelodau a staff cymorth fod y Bwrdd wedi edrych ar yr adborth dienw ac wedi ystyried gwelliannau, gan adrodd yn ôl ar gynnydd cyffredinol ac i unigolion maes o law.

Byddai crynodeb o'r canlyniadau yn cael ei drafod gydag Adam Price AC, y Comisiynydd sy'n gyfrifol am ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau i'r Aelodau, a byddai'n cael ei ddarparu i'r Comisiynwyr y tu allan i'r cyfarfod wedi hynny. Diolchodd y Bwrdd i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith o drefnu a chyfrannu at yr arolwg.

 

 


Cyfarfod: 12/12/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)

Arolwg boddhad yr Aelodau a’u staff cymorth

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 28
  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

Croesawodd y Bwrdd Rheoli Rebecca Hardwicke a Carys Rees, Cymorth Busnes i'r Aelodau, i'r cyfarfod i drafod canlyniadau'r adolygiad a'r argymhellion ar gyfer arolwg boddhad nesaf yr Aelodau.

 

Nid awgrymwyd unrhyw newidiadau sylweddol i'r arolwg blaenorol, ond roedd angen sicrhau y gellid olrhain y canlyniadau dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, cafodd yr arolwg ei addasu i gyd-fynd â'r strategaeth bresennol a'i hamseru fel y gellid cynnwys y canlyniadau yn yr Adroddiad Blynyddol a'r Adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin/Gorffennaf.

 

Argymhellodd y Bwrdd Rheoli y dylai'r arolwg gwmpasu'r canlynol: ymgysylltu a phobl ifanc; meysydd ehangach lle cynigir gwasanaethau dwyieithog er mwyn sicrhau bod yr ymagwedd a gymerir gan y tîm yn glir; papurau a gaiff eu paratoi ar gyfer yr Aelodau y tu hwnt i bapurau pwyllgor a'u prydlondeb; a thynnu sylw yn benodol i ba raddau y mae'r Aelodau a'u staff yn cael eu cefnogi i weithio yn y naill iaith.

 

Mewn perthynas â staff etholaethol, hysbyswyd y Bwrdd fod ymweliadau swyddfa wedi cael eu cynllunio er mwyn eu helpu i deimlo'n fwy o ran o'r broses. Byddai arolwg yn cael ei baratoi yn benodol ar gyfer eu hanghenion, ond yn ddigon tebyg i alluogi cymariaethau wrth lunio adroddiad.

 

Diolchodd y Bwrdd i Rebecca a Carys am yr holl waith a wnaed yn adolygu ac yn paratoi'r arolwg ac fe'u hysbyswyd mai Gwasanaethau'r Comisiwn fyddai â'r cyfrifoldeb arweiniol am yr arolygon bellach.

 

 

 


Cyfarfod: 21/10/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Arolwg bodlonrwydd yr Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32
  • Cyfyngedig 33
  • Cyfyngedig 34

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiwn ganlyniadau pedwerydd arolwg blynyddol yr Aelodau a’u staff cymorth.

 

Ymatebodd 33 o Aelodau a 107 o staff cymorth i'r arolwg ac, o’i gymharu ag arolwg 2014, gwelwyd bod sgôr y rhan fwyaf o'r meysydd gwasanaeth wedi codi.

 

Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod y bydd y sylwadau a gafwyd yn werthfawr wrth iddynt baratoi dull strategol o wella gwasanaethau ymhellach a chytunwyd y dylid rhannu canlyniadau'r arolwg gyda’r Aelodau a’u staff.

 


Cyfarfod: 29/09/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Canlyniadau Arolwg Bodlonrwydd Aelodau'r Cynulliad

papur 4

Cofnodion:

Adolygodd y Comisiwn ganlyniadau Arolwg Staff Aelodau’r Cynulliad a’u Staff Cymorth 2014. Yn dilyn adborth gan Aelodau ar arolwg 2013, roedd arolwg 2014 yn cynnwys llai o gwestiynau, dim ond 12, ac roedd yn caniatáu i ymatebwyr roi mwy o adborth drwy’r adrannau sylwadau opsiynol.  Cytunodd y Comisiynwyr y dylid rhannu canlyniadau’r arolwg ag Aelodau a staff yn fuan.

 


Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Canlyniadau arolwg yr Aelodau a'u staff cymorth 2014 - Papur 3

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 39

Cofnodion:

Rhoddodd Dave Tosh grynodeb o gasgliadau arolwg yr Aelodau'r Cynulliad a'u Staff Cymorth 2014-15.   Roedd yr arolwg eleni yn llawer byrrach nag arolygon blaenorol  -  12 cwestiwn o'u cymharu â 50 y llynedd - ac roedd yr arolwg symlach wedi gweithio'n dda.  Er bod ychydig llai wedi llenwi'r arolwg eleni,  mae'n debyg y gellid priodoli hynny i'r ffaith bod nifer o arolygon eraill yn cael eu cynnal yr un pryd.   Roedd y sgoriau'n gyffredinol dda, ac roeddent cystal â chanlyniadau'r arolwg diwethaf, neu'n rhagori arnynt, ac roedd cryn gynnydd i'w weld mewn meysydd fel TGCh a'r gallu i weithio yn eu dewis iaith.  Roedd y sgôr ymgysylltu'n is na'r arolwg blaenorol a chytunwyd y dylai'r arolygon yn y dyfodol fod yn gliriach am yr hyn y mae ymgysylltu'n ei olygu i wneud yn siŵr bod y canlyniadau'n ystyrlon.

 

Diolchodd y Bwrdd Rheoli i'r staff a oedd wedi cyfrannu at wella'r sgoriau.

 

Camau i’w cymryd:

·      y penaethiaid gwasanaeth i ymgorffori camau gweithredu'r arolwg yn eu cynlluniau gwasanaeth, gan gyfeirio'n benodol at ganlyniadau'r arolwg;

·      y penaethiaid i adrodd yn ôl i'r Aelodau ar y cynnydd a wnaed drwy gyfrwng diweddariad y Prif Weithredwr;

·      dylid rhannu'r cynnydd a wnaed ym maes gwasanaethau iaith Gymraeg gyda sefydliadau eraill a dylid rhoi adborth cadarnhaol i staff;

·      y tîm Cyfathrebu i ystyried sut y gellid helpu'r Aelodau ymhellach i ymgysylltu â'u hetholaethau; a

·      dylid ystyried sut i ymdrin â'r arolwg nesaf, i gynyddu'r nifer sy'n ymateb.


Cyfarfod: 18/07/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Adborth ar Arolwg Boddhad Aelodau'r Cynulliad

papur 4 ac atodiadau

Cofnodion:

Cafodd yr ail arolwg Aelodau'r Cynulliad a’u staff cymorth ei gwblhau ym mis Mehefin 2013 ac yn dilyn hynny cafodd adroddiad yn nodi meysydd i'w gwella neu feysydd sydd angen camau gweithredu ar eu cyfer ei ddatblygu gan staff. 

Cytunodd y Comisiynwyr fod yr arolwg wedi bod yn ddull defnyddiol i gasglu adborth gan Aelodau a'u staff a bod hynny wedi bod yn rhan bwysig o asesu perfformiad.  Cytunwyd y byddai'r arolwg yn cael ei ddiwygio yn y dyfodol, gyda chwestiynau ar wahân i Aelodau a'u staff, sy'n cydnabod eu bod yn defnyddio gwasanaethau'r Comisiwn mewn ffyrdd gwahanol. Croesawodd Comisiynwyr y cynllun gweithredu a gofyn i gael crynodeb o ganlyniadau'r arolwg yn y dyfodol, yn hytrach na'r adroddiad llawn gyda'r holl ddata.

Cytunodd y Comisiynwyr na ddylid cyhoeddi'r papur.


Cyfarfod: 24/01/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Arolwg Boddhad Defnyddwyr i Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth – Canfyddiadau a Chynllun Gweithredu