Cyfarfodydd
Gweithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/02/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Opsiynau ar gyfer ymdrin â'r Adroddiad Dilynol ar Weithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Cofnodion:
7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion a godwyd gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Adroddiad Dilynol ar Weithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Camau i’w cymryd
Nododd y Pwyllgor gynnwys yr adroddiad.
Penderfynodd y Pwyllgor ofyn am ddiweddariad ysgrifenedig gan Brif Weithredwr Adnoddau Naturiol Cymru ar weithredu argymhelliad a wnaed yn flaenorol gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y trydydd Cynulliad ynghylch cyfranogiad y gymuned wrth wneud penderfyniadau.
Cyfarfod: 05/02/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Adroddiad Dilynol ar Weithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru'
PAC(4) 04-13 – Papur 2
Dogfennau ategol:
- PAC(4) 04-13 Papur 2 - Gweithrediadau'r Comisiwn Coedwigaeth, Eitem 3
PDF 1 MB
- Gwybodaeth Ychwanegol - Gohebiaeth gan y Cadeirydd i Adnoddau Naturiol Cymru, Eitem 3
PDF 80 KB
Gweld fel HTML (3/2) 48 KB
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Alan Morris, Cyfarwyddwr y grŵp archwilio perfformiad ac Emma Giles, Arbenigwr perfformiad.