Cyfarfodydd

Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (5 Chwefror 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Ymateb Swyddfa Archwilio Cymru i argymhellion yr adroddiad

PAC(4)-04-14 (papur 2)

 

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Gwella Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol: Materion yn deillio o Archwilio Cyfrifon Cyngor Cymuned 2011-12 (Medi 2013)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan swyddogion o Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn â’u hymatebion ir argymhellion a oedd wediu cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor ar Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg, a oedd yn hollol berthnasol i Swyddfa Archwilio Cymru.

 


Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(4)-01-14 (papur 2)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg, a'i nodi.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ganfod a ellir cyflawni'r gyfundrefn archwilio trawsffiniol heb ddeddfwriaeth.

 


Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg: Trafodaeth yr Aelodau ar yr adroddiad drafft

PAC(4)-25-13 (papur 9)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunasant y byddent yn cytuno ar fersiwn derfynol drwy gyfnewid negeseuon e-bost.

 


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Trafod y dystiolaeth ynghylch materion sy'n codi o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd ar gyfer ei ymchwiliad i Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg.

 


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Materion sy'n codi o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg

James Harris, Cyn-aelod o Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd James Harris, Cyn-aelod o Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg.

 

2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tyst.

 


Cyfarfod: 16/05/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Materion sy'n codi o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg'

Llywodraeth Cymru (9.00 – 10.00)

Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru

 

Cyfoeth Naturiol Cymru (10.00 – 10.50)

Emyr Roberts, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Egwyl (10.50 – 10.55)

 

Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg a Chymdeithas yr Awdurdodau Draenio (10.55 – 11.45)

PAC(4) 14-13 – Papur 1

PAC(4) 14-13 – Papur 2

Richard Penn, Rheolwr Gyfarwyddwr, Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg

Dr Jean Venables, Prif Weithredwr, Cymdeithas yr Awdurdodau Draenio

 

Cyn Glerc a Pheiriannydd Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg (11.45 – 12.35)

Dean Jackson-Johns, Cyn Glerc a Pheiriannydd, Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Llywodraeth Cymru

 

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru; a Jo Larner, Pennaeth Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Llywodraeth Cymru.

 

2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y tystion.

 

Camau gweithredu:

 

2.3 Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         nodyn ynghylch a wnaeth DEFRA ymgynghori â Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r rheolau sefydlog enghreifftiol (a gafodd eu cyhoeddi yn 2005)

·         nodyn ynghylch pwy ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygiad posibl y Byrddau Draenio Mewnol.

 

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

2.4 Croesawodd y Cadeirydd y tystion Dr Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyfoeth Naturiol Cymru; a Tim England, Rheolwr Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol – Ardal y De-ddwyrain, Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

2.5 Craffodd y Pwyllgor ar waith y tystion.

 

Cam gweithredu:

 

2.6 Cytunodd Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu:

 

·         nodyn ynghylch a gafodd trefniadau ariannu ardal Gwent eu hailbrisio a’u hailwerthuso ar ôl adroddiad gan DEFRA yn 2006

 

Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg a Chymdeithas yr Awdurdodau Draenio

 

2.7 Croesawodd y Cadeirydd Richard Penn, Rheolwr Cyffredinol Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg; a Dr Jean Venables, Prif Weithredwr Cymdeithas yr Awdurdodau Draenio.

 

2.8 Craffodd y Pwyllgor ar waith y tystion.

 

Cam gweithredu:

 

2.9 Cytunodd y Rheolwr Cyffredinol i ddarparu:

 

·          copi o Reolau Sefydlog presennol a chymeradwy’r Bwrdd Draenio gyda’r sicrwydd y byddent yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Bwrdd. 

 

2.10 Cytunodd y Cynghorydd Cyfreithiol i’r Pwyllgor i ddarparu rhagor o wybodaeth ar gymhwysedd cyfreithiol Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag Awdurdodau Draenio.

 

 

Cyn Glerc a Pheiriannydd Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg

 

2.11 Croesawodd y Cadeirydd Dean Jackson-Johns, Cyn Glerc a Pheiriannydd Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg

 

2.12 Holodd y Pwyllgor y tyst.

 

Cam gweithredu:

 

2.13 Cytunodd Dean Jackson-Johns i ddarparu:

·         fersiwn electronig o’r papur a ddarparodd i’r Pwyllgor yn y cyfarfod. 

 


Cyfarfod: 16/05/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried tystiolaeth ar Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg

Cofnodion:

5.1 Trafododd Aelodau’r dystiolaeth a gafwyd yn ystod y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 12/03/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ystyried Cylch Gorchwyl yr ymchwiliad sy'n ymwneud â Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar ei gylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad i Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg a thrafod pa dystion yr hoffai gasglu tystiolaeth ganddynt.

 


Cyfarfod: 05/03/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ei ymchwiliad i gasgliadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg', a gofynnodd i’r Clerc baratoi cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad.


Cyfarfod: 05/02/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Opsiynau ar gyfer ymdrin â Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod opsiynau ar gyfer ymdrin â’r materion sy’n codi o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Archwiliad o Gyfrifon 2010-2011: Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg’.

 

Cam i’w gymryd:

 

Gofynodd y Pwyllgor i’r tîm clercio lunio papur cwmpasu ar gyfer ymchwiliad byr i’r materion a godwyd gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Archwiliad o Gyfrifon 2010-2011: Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg’.

 

 

 

 

   


Cyfarfod: 05/02/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Gwybodaeth am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg

PAC(4) 04-13 – Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol a David Rees, Rheolwr Llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Camau i’w cymryd:

 

Gofynnwyd i Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu:

 

·         Nodyn gyda rhagor o wybodaeth am bresenoldeb aelodau a benodwyd yng nghyfarfodydd y Bwrdd Draenio (gan nodi aelodau awdurdodau lleol a swyddogion). 

 

·         Nodyn gyda gwybodaeth am aelodaeth y Bwrdd Draenio yn y gorffennol.