Cyfarfodydd
Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (5 Chwefror 2014)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Ymateb Swyddfa Archwilio Cymru i argymhellion yr adroddiad
PAC(4)-04-14 (papur 2)
Adroddiad Swyddfa Archwilio
Cymru: Gwella
Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol: Materion yn deillio o Archwilio Cyfrifon Cyngor
Cymuned 2011-12 (Medi 2013)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Cafodd y
Pwyllgor sesiwn friffio gan swyddogion o Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn â’u hymatebion i’r
argymhellion a oedd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor
ar Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg, a oedd yn hollol berthnasol i Swyddfa Archwilio Cymru.
Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru
PAC(4)-01-14 (papur 2)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.1 Ystyriodd
y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fwrdd Draenio
Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg, a'i
nodi.
4.2 Cytunodd
y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ganfod a ellir
cyflawni'r gyfundrefn archwilio trawsffiniol heb ddeddfwriaeth.
Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)
Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg: Trafodaeth yr Aelodau ar yr adroddiad drafft
PAC(4)-25-13 (papur 9)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (10/1)
Cofnodion:
10.1 Trafododd yr Aelodau yr
adroddiad drafft a chytunasant y byddent yn cytuno ar fersiwn derfynol drwy
gyfnewid negeseuon e-bost.
Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Trafod y dystiolaeth ynghylch materion sy'n codi o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor y
dystiolaeth a ddarparwyd ar gyfer ei ymchwiliad i Fwrdd Draenio Mewnol
Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg.
Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Materion sy'n codi o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg
James Harris, Cyn-aelod o Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd
James Harris, Cyn-aelod o Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg.
2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tyst.
Cyfarfod: 16/05/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Materion sy'n codi o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg'
Llywodraeth Cymru (9.00 – 10.00)
Gareth Jones, Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru (10.00 – 10.50)
Emyr Roberts, Prif
Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru
Egwyl (10.50 – 10.55)
Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a
Gwynllŵg a Chymdeithas yr Awdurdodau Draenio (10.55 – 11.45)
PAC(4) 14-13 –
Papur 1
PAC(4) 14-13 –
Papur 2
Richard Penn, Rheolwr
Gyfarwyddwr, Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg
Dr Jean Venables,
Prif Weithredwr, Cymdeithas yr Awdurdodau Draenio
Cyn Glerc a Pheiriannydd Bwrdd Draenio Mewnol
Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg (11.45 – 12.35)
Dean
Jackson-Johns, Cyn Glerc a Pheiriannydd, Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau
Cil-y-coed a Gwynllŵg
Dogfennau ategol:
- PAC(4) 14-13 (p1) Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 248 KB Gweld fel HTML (2/1) 27 KB
- PAC(4) 14-13 (p1) Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg - Atodiad (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 273 KB Gweld fel HTML (2/2) 103 KB
- PAC(4) 14-13 (p2) Chymdeithas yr Awdurdodau Draenio (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 214 KB Gweld fel HTML (2/3) 20 KB
- PAC(4) 14-13 (p2) Chymdeithas yr Awdurdodau Draenio - Atodiad (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 430 KB Gweld fel HTML (2/4) 78 KB
Cofnodion:
Llywodraeth Cymru
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth
Cymru; a Jo Larner, Pennaeth
Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Llywodraeth Cymru.
2.2 Craffodd y
Pwyllgor ar waith y tystion.
Camau gweithredu:
2.3 Cytunodd
Llywodraeth Cymru i ddarparu:
·
nodyn
ynghylch a wnaeth DEFRA ymgynghori â Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r rheolau
sefydlog enghreifftiol (a gafodd eu cyhoeddi yn 2005)
·
nodyn
ynghylch pwy ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygiad posibl y
Byrddau Draenio Mewnol.
Cyfoeth Naturiol Cymru
2.4 Croesawodd y
Cadeirydd y tystion Dr Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyfoeth Naturiol Cymru; a Tim
England, Rheolwr Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol – Ardal y De-ddwyrain,
Cyfoeth Naturiol Cymru.
2.5 Craffodd y
Pwyllgor ar waith y tystion.
Cam gweithredu:
2.6 Cytunodd
Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu:
·
nodyn
ynghylch a gafodd trefniadau ariannu ardal Gwent eu hailbrisio a’u hailwerthuso
ar ôl adroddiad gan DEFRA yn 2006
Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a
Gwynllŵg a Chymdeithas yr Awdurdodau Draenio
2.7 Croesawodd y
Cadeirydd Richard Penn, Rheolwr Cyffredinol Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau
Cil-y-coed a Gwynllŵg;
a Dr Jean Venables, Prif Weithredwr Cymdeithas yr Awdurdodau Draenio.
2.8 Craffodd y
Pwyllgor ar waith y tystion.
Cam gweithredu:
2.9 Cytunodd y
Rheolwr Cyffredinol i ddarparu:
·
copi o Reolau Sefydlog presennol a
chymeradwy’r Bwrdd Draenio gyda’r sicrwydd y byddent yn cael eu cyhoeddi ar wefan
y Bwrdd.
2.10 Cytunodd y Cynghorydd Cyfreithiol i’r Pwyllgor i ddarparu rhagor o
wybodaeth ar gymhwysedd cyfreithiol Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag
Awdurdodau Draenio.
Cyn Glerc a Pheiriannydd Bwrdd Draenio Mewnol
Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg
2.11 Croesawodd y
Cadeirydd Dean Jackson-Johns, Cyn Glerc a Pheiriannydd Bwrdd Draenio Mewnol
Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg
2.12 Holodd y
Pwyllgor y tyst.
Cam gweithredu:
2.13 Cytunodd
Dean Jackson-Johns i ddarparu:
·
fersiwn
electronig o’r papur a ddarparodd i’r Pwyllgor yn y cyfarfod.
Cyfarfod: 16/05/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ystyried tystiolaeth ar Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg
Cofnodion:
5.1 Trafododd Aelodau’r
dystiolaeth a gafwyd yn ystod y cyfarfod.
Cyfarfod: 12/03/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Ystyried Cylch Gorchwyl yr ymchwiliad sy'n ymwneud â Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
Cofnodion:
6.1 Trafododd a chytunodd y
Pwyllgor ar ei gylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad i Fwrdd Draenio Mewnol
Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg a thrafod pa dystion yr hoffai gasglu tystiolaeth ganddynt.
Cyfarfod: 05/03/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg'
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 33 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/1)
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
8.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ei ymchwiliad i gasgliadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg', a gofynnodd i’r Clerc baratoi cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad.
Cyfarfod: 05/02/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Opsiynau ar gyfer ymdrin â Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg
Cofnodion:
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod opsiynau ar gyfer ymdrin â’r materion sy’n codi o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Archwiliad o Gyfrifon 2010-2011: Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg’.
Cam i’w gymryd:
Gofynodd y Pwyllgor i’r tîm clercio lunio papur cwmpasu ar gyfer ymchwiliad byr i’r materion a godwyd gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Archwiliad o Gyfrifon 2010-2011: Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg’.
Cyfarfod: 05/02/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Gwybodaeth am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg
PAC(4) 04-13 – Papur 1
Dogfennau ategol:
- PAC(4) 04-13 Papur 1 - Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg, Eitem 2 PDF 1 MB
- Ymateb i Bwynt Gweithredu - Gwybodaeth am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg, Eitem 2 PDF 238 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol a David Rees, Rheolwr Llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru.
Camau i’w cymryd:
Gofynnwyd i Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu:
· Nodyn gyda rhagor o wybodaeth am bresenoldeb aelodau a benodwyd yng nghyfarfodydd y Bwrdd Draenio (gan nodi aelodau awdurdodau lleol a swyddogion).
· Nodyn gyda gwybodaeth am aelodaeth y Bwrdd Draenio yn y gorffennol.