Cyfarfodydd
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 17 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 29.01.2016 Gohebiaeth - y Deisebydd at y tîm clercio, Eitem 3
PDF 15 KB Gweld fel HTML (3/2) 14 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd, a chan iddynt deimlo na
allent wneud rhagor i fynd â'r mater yn ei flaen, cytunwyd i gau'r
ddeiseb. Wrth wneud hynny, diolchodd yr
Aelodau i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb ac am eu helpu i ddeall y materion
sy'n gysylltiedig â'r ddeiseb.
Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 30.04.2014 Gohebiaeth - Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 141 KB
- 26.09.2014 Gohebiaeth - Deisebydd I’r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 26 KB Gweld fel HTML (3/3) 5 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
- ysgrifennu at arweinydd Cyngor
Caerffili am ymateb; a
- thynnu sylwadau’r deisebydd i
sylw'r Gweinidog.
Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3
PDF 28 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 16/01/2014 Gohebiaeth - y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 3 MB
- 04/02/2014 Gohebiaeth - y Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 233 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
- y Gweinidog yn gofyn am ei farn ar sut y bydd y ddeddfwriaeth a'r
canllawiau ynghylch taliadau uniongyrchol, a fydd yn cael eu
hailysgrifennu o ganlyniad i'r Bil Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru),
yn gwella'r sefyllfa, gan rannu hefyd sylwadau pellach y deisebydd ar yr
anawsterau parhaus y mae rhai yn eu hwynebu; a
- Chyngor Caerffili ynghylch y
pryderon am y taliad uniongyrchol.
Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4
PDF 58 KB Gweld fel HTML (4/1) 23 KB
- 06.08.2013 Gohebiaeth - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4
PDF 274 KB
- 30.09.2013 Gohebiaeth - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4
PDF 164 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
nodi'r sefyllfa a gofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf, yn dilyn
Cyfnod 2 y Bil, ynghylch a yw'r newidiadau a wnaed wedi datrys y sefyllfa; a
·
gofyn i'r deisebydd am ei sylwadau ynghylch llythyr y Gweinidog.
Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Lythyr gan y Pwyllgor Deisebau: Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr
a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau; bydd y Cadeirydd yn ymateb, gan
nodi'r ohebiaeth.
Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig: Sesiwn dystiolaeth
Dr Tymandra
Blewett-Silcock, Prif Ddeisebydd
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 5
PDF 89 KB Gweld fel HTML (5/1) 9 KB
- Gwybodaeth ategol gan y deisebydd, Eitem 5
PDF 68 KB
Cofnodion:
Atebodd y Dr Tymandra Blewett-Silcock gwestiynau gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig: Trafod y sesiwn dystiolaeth
Cofnodion:
Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i;
· ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a fydd adolygiad o Daliadau Uniongyrchol;
· ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn tynnu sylwa at y materion cyn cynnal gwaith craffu pellach ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru);
· casglu rhagor o astudiaethau achos am y mater dan sylw; ac
· ystyried a ddylid cymryd rhagor o dystiolaeth yn ystod tymor yr hydref.
Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 89 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 18.02.2013 Gohebiaeth - oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 3
PDF 150 KB
- 28.02.2013 Gohebiaeth - oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc at y Cadeirydd, Eitem 3
PDF 62 KB
- 05.03.2013 Gohebiaeth - oddi wrth Gomisiynydd Plant Cymru at y Cadeirydd, Eitem 3
PDF 191 KB
- 20.03.2013 Gohebiaeth - oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili at y Cadeirydd, Eitem 3
PDF 638 KB
- 04.04.2013 Gohebiaeth - gwybodaeth ychwanegol gan y deisebwr at y Cadeirydd, Eitem 3
PDF 48 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
·
ymgymryd â rhagor o waith ar y ddeiseb os na fyddai’r
Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn gwneud hynny;
·
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
yn amlygu’r problemau sy’n wynebu’r deisebydd a’r anawsterau a nodwyd gan
Gyngor Caerffili; ac
·
ysgrifennu at Gyngor Caerffili gyda mwy o fanylion am
achos y deisebydd.
Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon, a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
· y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol;
· Comisiynydd Plant Cymru; a
· Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
i gael eu barn ar y ddeiseb.
Gall y Pwyllgor wneud darn byr o waith ar y ddeiseb hon yn dibynnu ar yr ymatebion sy’n dod i law.