Cyfarfodydd
P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio
ers i'r deisebydd gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.
Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3 PDF 29 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- 14.12.2013 Gohebiaeth – Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 4 MB
- 13.12.2013 Gohebiaeth – Bwrdd Iechyd Hywel Dda at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 1 MB
- 26.01.2014 Gohebiaeth - P-04-394 Y Prif Ddeisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 39 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i:
- gau deiseb Uned Mân
Anafiadau Dinbych-y-pysgod, ond i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn
gofyn am eglurhad ynghylch y gwasanaeth newydd sydd i'w ddarparu mewn
perthynas â'r angen i fod wedi cofrestru gyda meddyg teulu;
- ceisio barn y deisebydd yn dilyn
datganiad y Gweinidog ynghylch yr uned newyddenedigol yn Ysbyty Glangwili,
ac
- ar awgrym y deisebydd,
gohirio trafodaeth bellach ar y ddeiseb Achub ein Gwasanaethau hyd nes y
bydd canlyniad yr adolygiad barnwrol yn hysbys.
Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 29 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- 04.06.2013 Gohebiaeth - gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 154 KB
- Medi 2013 Adroddiad - Adroddiad y Panel Craffu ar y cynigion ynghylch newid gwasanaethau yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg, Eitem 3 PDF 448 KB
- Medi 2013 Adroddiad - Adroddiad y panel craffu ar y cynigion ynghylch newid gwasanaethau yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg, Eitem 3 PDF 298 KB
- 30.10.2013 Gohebiaeth - P-04-394 gan y prif ddeisebwr at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/5) 6 KB
- 30.08.2013 Gohebiaeth - P-04-430 gan y prif ddeisebwr at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 3 MB
- 30.10.2013 Gohebiaeth - P-04-431 gan y prif ddeisebwr at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 133 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
ysgrifennu
at y Gweinidog yn holi am ragor o fanylion am bwrpas y panel craffu
arbenigol;
·
tynnu
sylw'r Gweinidog at yr ohebiaeth bellach gan y deisebwyr a gofyn i’r panel ei
hystyried;
·
aros am
benderfyniad y Gweinidog yn sgîl y cyngor mae'n ei gael gan y panel; a
·
cheisio
ymateb gan fwrdd iechyd Hywel Dda, gan roi copi o'r cais i'r Gweinidog a mynegi
pryder am yr amser a gymerwyd i ymateb i ohebiaeth y Pwyllgor.
Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 35 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- 18.04.2013 Gohebiaeth - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 272 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y deisebau a chytunodd i:
·
grwpio deiseb P-04-455 gyda'r deisebau eraill sy'n gysylltiedig â Hywel
Dda;
·
ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda ynghylch Uned Mân Anafiadau
Dinbych-y-pysgod yn gofyn a fyddent yn gallu bodloni'r amodau a bennir gan y
cyngor iechyd cymuned wrth ddarparu gwasanaeth mân anafiadau yn
Ninbych-y-pysgod; ac
·
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip ac Ysbyty
Llwynhelyg a gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor pan fydd penderfyniad terfynol
wedi'i wneud.
Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i’r cais am ragor o wybodaeth am sut y mae’r broses ymgynghori wedi llywio’r broses o wneud penderfyniad.